Event

Sgwrs Artist | Gwynt Traed y Meirw Nigel Hurlstone

01/24/2026 - 01/24/2026

Agoriad arddangosfa: 2yp, dydd Sadwrn 24 Ionawr 2026

Gyda sgwrs artist am 2.30yp

AM DDIM | Croeso i bawb

Wrth i ni agor arddangosfa Gwynt Traed y Meirw yn Oriel Mission, dewch i wrando ar yr artist Nigel Hurlstone yn sgwrsio am y prosiect a’r darnau hynod hyn.

 


Mae Nigel Hurlstone yn archwilio ei ddiddordeb parhaus gyda ‘gwisgo i fyny’, tric consurio sy’n caniatáu i ni gael cipolwg ar fywydau eraill, o’r cricedwr i’r curad. Mewn casgliad o hunanbortreadau gyda’r artist wedi’i wisgo mewn dillad amrywiol mae Hurlstone yn datgelu potensial gwisgoedd i bendilio rhwng eu peuoedd ymarferol, ffasiynol a rhyweddedig a thiriogaethau seicolegol, emosiynol a sinematig; yma gwelwn un dyn ond llawer o bobl.

Astudiodd Nigel Hurlstone (ganed 1970) ar gyfer BA mewn Tecstilau Wedi’u Brodio ym Mholitechneg Manceinion gynt (Prifysgol Metropolitan Manceinion bellach) lle dyfarnwyd iddo radd dosbarth cyntaf. Yna enillodd radd MA (gyda rhagoriaeth) mewn tecstilau ac roedd yn un o’r cyntaf i dderbyn PhD ar sail ymarfer gan y Brifysgol yn 2000. Mae wedi gweithio fel ymarferydd, awdur a darlithydd hŷn dros y 30 mlynedd diwethaf ac yn 2014 sefydlodd stiwdio yn Ffynnongroyw yn Sir y Fflint, ac yno mae’n byw a gweithio bellach.

Arddangosfa gwreiddiol gan Ganolfan Grefft Rhuthun.
Ffotograffiaeth: Arddangosfa yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, delwedd gan Dewi Tannatt Lloyd