Event
Perfformiad Delynor Teires Cymreig Digwyddiad cloi ar gyfer Merched ar Lestri
08/30/2025 - 08/30/2025
Dydd Sadwrn 30 Awst
3:30yp
Oriel Mission
Am ddim
Robin Huw Bowen ‘Telynor Cymru II’
Gan ddilyn ôl-traed Nansi Richards ‘Telynores Maldwyn’, mae Robin Huw Bowen yn hyrwyddo’r Delyn Deires fel gwir eicon cenedlaethol Cymreig.
Yn ystod gyrfa o dros ddeugain mlynedd, mae wedi cyflwyno’r offeryn unigryw Gymreig hon a cherddoriaeth draddodiadol ddilys Cymru i filoedd led-led y byd. Gyda sail gadarn ddyblyg ei ymchwil hir yn y maes, ynghyd â thechneg ddilys a ddysgodd gan ffynonellau byw, mae Robin yn cynrychioli gwir enaid traddodiad gwerin Cymru, ac yn rhoi mynegiant byw i gerddoriaeth Gymreig o’r newydd.
Mae canu ysbrydoledig Robin yn sicrhau ei fod yn ailgynnau gwir enaid y gerddoriaeth a’i chyfleu i’r gwrandawyr fel peth byw. Mae’n dod â gwir sain a natur y traddodiad Cymreig i’w gynulleidfa, gan adlewyrchu aestheteg hŷn efallai, ond lawn mor fyw a lliwgar ag y buodd erioed.
Mae ei ddylanwad ar y byd Gwerin Cymreig ac ar hanes y Delyn yng Nghymru yn un eang a phwysig. Yn ddiau, fe saif ymysg y ffigurau pwysicaf i godi o draddodiad Gwerin Cymru, ac nid yw’n syndod felly ei fod yn cael ei gydnabod fel prif Delynor Teires Cymreig heddiw.