Event
KABEL | Perfformiad pop-up
01/25/2025 - 01/25/2025
12.30yp | Dydd Sadwrn 25ain Ionawr 2025
AM DDIM | Croeso i bawb
Ymunwch a ni am berfformiad difyfyr gan y coreograffwyr/cyfarwyddwyr a brodyr Anthony a Kel Matsena; rhan o arddangosfa pop-up KABEL!

Am KABEL:
Deilliodd a datblygodd KABEL gan y brodyr Anthony a Kel Matsena, wedi ei arwain gan eu gweledigaeth unigryw a chydweithrediad creadigol. Oriel Mission oedd y cyntaf i gefnogi’r prosiect, gan ddarparu platfform pwysig yn y camau cynnar. Trwy’r bartneriaeth hon, datblygodd y gwaith i gynnwys elfennau o artistiaid gweledol, ffilm ac ymarferwyr sain. Yn 2023/2024, gwnaeth cyfnod ymchwil a datblygu cyfoethogi’r darn, gyda’r nod o weithio tuag at gynhyrchiad amlddisgyblaethol hwyrach.
Cydweithrediad creadigol yw KABEL rhwng y brodyr Anthony Matsena a Kel Matsena ac artistiaid cyswllt Sue Williams, Melissa Rodrigues, Laurentina Miksys, Beth Lewis ac Alex Hermon.
Cyfle prin yw’r perfformiad pop-up yma i fod yn dyst i waith un o gwmnïoedd creadigol mwyaf cyffrous y DU mewn awyrgylch agos. Wrth i’r stori ddatblygu, cewch chi eich trochi mewn byd o emosiwn cignoeth a naratif pwerus, gan eich herio i adlewyrchu ar gwestiynau moesol bythol.
Delwedd: Delwedd prosiect KABEL (Anthony a Kel Matsena). Ffotograffwyd gan Laurentina Miksys.