Event
Dydd Gwener Tecstilau
07/26/2024 - 09/20/2024
I ddathlu agoriad arddangosfeydd ‘Tu ôl i’r bocs | Behind the Box’ Cefyn Burgess a ‘The Maker’ Sarah Reason-Jones, rydym yn agor ein drysau i selogion tecstilau o bob lefel gallu ddod i greu ar ddydd Gwener.
Dewch â phrosiect rydych chi wedi bod yn gweithio arno gyda chi, neu rywbeth rydych chi wedi’i roi o’r neilltu – dewch i greu a sgwrsio dros baned!
Mae’r sesiynau hyn am ddim ac yn agored i bawb.
Dydd Gwener Tecstilau | Gadw tocynnau yma
11am – 4pm: Gweithgaredd galw-heibio; cewch aros am gyhyd ag y dymunwch.
Cofiwch fod yn rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Dyddiadau:
26 Gorffennaf
02 Awst
09 Awst
16 Awst
23 Awst
30 Awst
06 Medi
13 Medi
20 Medi
—
Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Rhian Wyn Stone, Cyfarwyddwr Oriel, ar 01792 652016 neu e-bostiwch
Dewch â’ch deunyddiau eich hun lle bo’n bosibl gan mai prin yw’r deunyddiau a ddarperir. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
Mae mynediad un cam i fyny o lefel y palmant trwy ein prif fynedfa.
Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn yr oriel sydd wedi’i lleoli ar lawr gwaelod yr adeilad.