Event

Adrodd Straeon gyda Kim Willis

11/30/2024 - 11/30/2024

2yp, dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024

AM DDIM | Croeso i bawb

Chwedlau i’r Wlad Wyllt
Menywod, chwedlau a storiâu o Gymru a phellach

Mae pawb yn mwynhau stori dda. I ddathlu agoriad ‘Yn berffaith ryfedd… | Perfectly strange…’, ymunwch a ni wrth i Kim rannu storiâu prydferth a gwyllt.

Mae Kim yn adroddwr straeon a phrofiadau sydd wedi teithio Cymru ac ymhellach i ddarganfod storiâu’r duwiesau coll, natur a phŵer. Mae ei gwaith yn bodoli ar ochr hen fytholeg a dychymyg byd newydd, gan newid systemau trwy gysylltu’r pen a’r galon.

@ __kimwillis