Adnoddau ar gyfer pob gallu

Chwilio am weithgareddau i’w gwneud gartref? 

Isod rydym wedi curadu amrywiaeth o adnoddau y gellir eu llwytho i lawr, sydd wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfeydd; rhai blaenorol a rhai newydd. Drwy seilio gweithgareddau ar ein rhaglen o arddangosfeydd, fe gewch chi’r profiad llawn o’r oriel. 

Ochr yn ochr â hyn, mae ein rhwydwaith gwych o artistiaid proffesiynol wedi llunio rhai gweithgareddau i chi roi cynnig arnyn nhw. 

Byddem wrth ein bodd yn gweld sut rydych chi’n dehongli’r rhain – rhannwch eich creadigaethau â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

 

Gweithgareddau seiliedig ar arddangosfeydd

Arddangosfa: 100 mlynedd o Glenys Cour. 100 mlynedd o Glenys Cour Dewch i ddathlu gwaddol hirsefydlog Glenys a’i brwdfrydedd dros beintio

Pecyn Gweithgareddau i’w Lwytho i Lawr  100 Years of Glenys Cour , 100 Mlynedd  o Glenys Cour

 

Y Gwneuthurwr: Old Stony Hill: Dewch i ddathlu gwaith unigryw ac arallfydol yr artist ceramig Katherine Silvera-Sunley. Ceir yma fynegiant unigryw o’i hunaniaeth fewnol – does dim dau ddarn yr un fath â’i gilydd.

Pecyn Gweithgareddau i’w Lwytho i Lawr : Old Stony Hill

 

 

Arddangosfa: Perfectly Strange: Dewch i gael eich ysbrydoli gan straeon a chwedlau. P’un a ydynt yn deillio o draddodiad Cymru neu o wledydd pell – maent yn sicr o danio’r dychymyg.

Pecyn Gweithgareddau i’w Lwytho i Lawr Pack: Perfectly Strange