Uwchgylchu Bydoedd: Ail-ddychmygu Celf Ail-law Drwy Baentio, yng nghwmni’r Artist Rhys Cannon

Eventbrite 

Uwchgylchu Bydoedd: Ail-ddychmygu Celf Ail-law Drwy Baentio, yng nghwmni’r Artist Rhys Cannon

Dydd Sadwrn 15 Awst 2026

Gweithdy i Oedolion £30

11am-3pm

 

Bywgraffiad yr artist

Artist ac addysgwr o dde Cymru yw Rhys Cannon, ac astudiodd Gelf Gain ym Mhrifysgol Chichester, Gorllewin Sussex. Bu hefyd yn gyd-berchennog ac artist preswyl yn The Old Chapel Gallery yn Abbotsbury, Dorset. Mae ei waith yn cynnwys paentio, lluniadu, gwneud printiau, ffotograffiaeth, cyfryngau digidol, a ffilm, gyda’r pynciau’n amrywio o dirweddau a bywyd gwyllt i bortreadau, ffantasi, swrrealaeth, a diwylliant cyfoes. Yn ogystal â chreu ei waith ei hun, mae Rhys yn frwd dros arbrofi gyda deunyddiau, technegau a phrosesau creadigol newydd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dulliau sy’n herio syniadau traddodiadol am baentio, gan ddefnyddio chwarae, dychymyg a chynaliadwyedd i annog pobl o bob gallu i ddarganfod ffyrdd newydd o greu celf.

Crynodeb

Dan arweiniad yr artist Rhys Cannon, mae Uwchgylchu Bydoedd yn weithdy paentio creadigol sy’n gwahodd cyfranogwyr i drawsnewid gwaith celf ail-law nad oes mo’i eisiau, neu sydd wedi cael ei anwybyddu, yn rhywbeth cwbl newydd. Gan ddefnyddio printiau wedi’u fframio, paentiadau a gwaith celf addurniadol o siopau elusen a chanolfannau ailddefnyddio, bydd cyfranogwyr, drwy gefnogaeth gan Rhys, yn paentio’n uniongyrchol ar ddelweddau sy’n bodoli eisoes, gan ychwanegu elfennau ysmala, swrrealaidd, doniol neu wedi’u hysbrydoli gan ddiwylliant poblogaidd i greu gwaith celf hybrid unigryw.

Mae’r gweithdy wedi’i ysbrydoli gan arferion uwchgylchu cyfoes, ac yn annog y cyfranogwyr i ystyried hen wrthrychau yn gyfleoedd ar gyfer creadigrwydd yn hytrach na gwastraff. Drwy wneud pethau fel ychwanegu creaduriaid enfawr at dirweddau, elfennau ffuglen wyddonol at olygfeydd traddodiadol, neu naratifau chwareus at hen baentiadau, bydd cyfranogwyr yn ystyried storïaeth, dychymyg a chynaliadwyedd drwy gelf.

Bydd yn annog y cyfranogwyr i ailystyried gwerth gwrthrychau a deunyddiau sy’n bodoli eisoes. Yn hytrach na phrynu canfasau newydd neu gael gwared ar waith celf nad oes mo’i eisiau, bydd y cyfranogwyr yn rhoi ail fywyd i ddarnau ail-law drwy ymyrraeth greadigol.

Mae’r gweithdy’n ystyried cwestiynau am berchnogaeth, gwerth, hiraeth a thrawsnewid, gan hyrwyddo arferion artistig cynaliadwy drwy ailddefnyddio ac ail-bwrpasu. Bydd y cyfranogwyr yn gadael gyda gwaith celf unigryw sy’n dathlu creadigrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol.

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

—-

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â

01792 652016

Safiyyah Altaf, neu anfonwch e-bost at Outreach@missiongallery.co.uk

Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.