Dydd Sadwrn 12eg Rhagfyr
3pm-4pm | 7+ | £7
Sesiynau â Chymorth
Mae Sesiynau â Chymorth yn fersiwn fyrrach ac wedi’i haddasu o’n prif raglen grefftau. Mae’r gweithgareddau wedi’u cynllunio ar gyfer pobl sydd â gorbryder, awtistiaeth neu anghenion dysgu ychwanegol. Maent yn cynnwys fersiwn bersonol a hyblyg o’r gweithdy creadigol sy’n ceisio annog cyfranogiad creadigol. Mae’r grwpiau’n llai er mwyn cefnogi amgylchedd sy’n ystyriol o amrywiaeth. Gofynnir i rieni a gofalwyr ddod i greu hefyd, a mwynhau’r sesiynau gyda’i gilydd. Mae’r sesiynau’n ceisio bod yn groesawgar a chefnogol. Os ydych chi eisiau trafod a yw’r gweithdai hyn yn addas i chi, cysylltwch â’r oriel. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu sydd angen ei archebu.
Tai Sinsir wedi’u gwneud o Gardfwrdd
Wrth i dymor yr ŵyl agosáu, ymunwch â ni i greu tai bara sinsir hyfryd wedi’u gwneud o gardfwrdd. Addurnwch y tai mewn ffordd Nadoligaidd ac unigryw! Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei roi yn eich ffenestr i bobl eraill ei mwynhau neu ei gosod fel canolbwynt eich ystafell.
Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.