Eventbrite 

Dydd Sadwrn 21ain Tachwedd

Gweithdy gwneud trychfilod gyda DARCH Collective

Sylwch:

Mae angen blaendal bach i sicrhau eich lle yn y gweithdy. Gellir ad-dalu’r blaendal hwn ar y diwrnod ar ôl i chi fod yn y gweithdy neu ei adael fel rhodd garedig i Oriel Mission i gefnogi ein rhaglen.

Mae hwn yn weithgaredd blêr, felly gwisgwch ddillad nad ydych chi’n poeni gormod am eu baeddu.

Dewch â tupperware neu focs bach gyda chi i fynd â’ch trychfil adref gyda chi.

Mae un tocyn ar Mae un tocyn ar gyfer grŵp o bedwar

Amser

  • 10:30- 11:15
  • 11:30-12:15
  • 13:45- 14:30
  • 14:45- 15:30

 

Bywgraffiad yr artist

DARCH yw’r ymarfer cydweithredol rhwng yr artistiaid Umulkhayr Mohamed a Radha Patel. Mae eu gwaith yn chwilio am ffyrdd creadigol o fynegi arferion gofal-ganolog ar gyfer pobl o liw, gyda dull sy’n seiliedig ar undod a rhyddhad.

 

Crynodeb

Mae DARCH (Umulkhayr Mohamed a Radha Patel) yn gwahodd plant ifanc a’u rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid i alw heibio i wneud trychfil o’u dewis neu i greu un o’r newydd sy’n byw o dan y ddaear. Byddwn yn gweithio gyda chlai aer-sych a deunyddiau eraill a gyda’n gilydd, byddwn yn dysgu am waith pwysig trychfilod yn cadw ein byd yn fyw ac yn anadlu.

Pan fydd unrhyw un yn marw, mae gwahanol drychfilod – pryfed, cynrhon, chwilod, llyngyr – yn gweithio’n galed i’w dadelfennu neu eu torri i lawr yn araf. Yng nghylch bywyd, mae’r broses hon yn bwysig iawn i feithrin y tir a bwydo’r pridd, er mwyn i blanhigion newydd allu tyfu a pharhau i fwydo pawb sy’n byw.

Stori sain a gosodiad cerfluniol yw ‘Heaven in the Ground’, sy’n anrhydeddu ein perthynas â natur, ein hynafiaid dynol a mwy na dynol (planhigion, tywydd, pridd, dŵr, trychfilod a chraigwely) ac mae’n gofyn cwestiynau pwysig am y gwaith mae trychfilod yn ei wneud i gadw ein byd yn fyw ac yn anadlu.

—-

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.