Archebwch nawr

Eventbrite 

Clwb Crefft i Blant

10yb-11:30yb| 7+ oed | £20 am 3 Gweithdy

Nod y gweithdai yw i gyfranogwyr fynegi eu hunain yn greadigol, gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau celf newydd drwy ymchwilio i fyd celf a chrefft. Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu, ac mae cyfranogwyr bob amser yn gadael y sesiynau gyda’u crefftau unigryw eu hunain.

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!

Dydd Sadwrn 28 Tachwedd Clymu a Llifo Ffabrig

Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr Gweithdy ‘Ffrindiau Ffabrig’ i Deuluoedd:

Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr Tai Sinsir wedi’u gwneud o Gardfwrdd

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.