Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle
EventbriteClwb Crefftau i Oedolion
10yb-11:30yb | 18+ Oed | £30 | £18 am sesiwn unigol.
Gweithdai Creadigol i oedolion
Cyfres dwy ran o weithdai, £30 am ddau weithdy neu £18 am sesiwn unigol.
Dan arweiniad Oriel Mission. Mae’r gweithdai hyn wedi’u llunio i roi gofod hamddenol i oedolion roi cynnig ar grefftau heb bwysau. Byddwch yn gadael â gwybodaeth newydd am dechnegau traddodiadol. Mae’r dosbarthiadau hyn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i gwrdd â phobl newydd, lleddfu straen, rhoi cynnig ar wahanol dechnegau a chreu cysylltiadau newydd mewn gofod creadigol.
Nod y gweithdai hyn yw rhoi cyfle i bobl archwilio yn hytrach na rhoi dadansoddiad technegol llawn o’r prosesau dan sylw. Mae llefydd yn brin ac mae angen archebu lle. Gallwch gysylltu â thîm Oriel Mission i archebu eich lle
Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!
Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Safiyyah Altaf Swyddog Creadigol Allgymorth: outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016
Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.