Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!:

 
Eventbrite 

Clwb Crefftau i Oedolion Rhan 1

11yb-12:30yp|18+ Oed|£30 |£18 am sesiwn unigol.

Gweithdai Creadigol i oedolion

Cyfres dwy ran o weithdai, £30 am ddau weithdy neu £18 am sesiwn unigol.

Dan arweiniad Safiyyah Altaf, artist a Swyddog Creadigol Allgymorth Oriel Mission. Mae’r gweithdai hyn wedi’u llunio i roi gofod hamddenol i oedolion roi cynnig ar grefftau heb bwysau. Byddwch yn gadael â gwybodaeth newydd am dechnegau traddodiadol. Mae’r dosbarthiadau hyn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i gwrdd â phobl newydd, lleddfu straen, rhoi cynnig ar wahanol dechnegau a chreu cysylltiadau newydd mewn gofod creadigol. Gellir archebu lle mewn dosbarth unigol am £18 neu ddosbarth dwy ran am £30, gan ddefnyddio ‘clwb crefftau rhan un’ neu ‘clwb crefftau rhan dau’ fel cyfeirnod.

Nod y gweithdai hyn yw rhoi cyfle i bobl archwilio yn hytrach na rhoi dadansoddiad technegol llawn o’r prosesau dan sylw. Mae llefydd yn brin ac mae angen archebu lle. Gallwch gysylltu â thîm Oriel Mission i archebu eich lle.

Mae’r gweithdai hyn yn rhan o’r prosiect ‘Our voice through making, Ein llais trwy creu’ sy’n cael ei ariannu’n garedig gan yr Ashley Family Foundation gyda chefnogaeth ymarferol Oriel Mission. Gan ganolbwyntio’n gryf ar allgymorth, nod y gweithdai hyn yw cysylltu’r gymuned leol â dwy artist ifanc yng Nghymru, sef Bonnie Grace a Safiyyah Altaf.

Dydd Sadwrn 16 Mai

11am-12:30am

Peintio sidan

Yn y sesiwn hon byddwch yn defnyddio sidan ysgafn mewn cylch brodwaith. Gan ddefnyddio dulliau gwrthsefyll gutta, byddwch yn tynnu llun o’ch dyluniad cywrain i greu prif nodweddion. Ar ôl i’r sidan sychu bydd cyfle i addurno rhagor arno drwy beintio’r sidan â llaw.

Dydd Sadwrn 23 Mai

11am-12:30

Printio drwy Droslunio:

Mae printio drwy droslunio yn ffordd wych o addurno a dylunio ffabrigau. Byddwn yn dysgu’r broses o beintio gyda llifynnau troslunio lliwgar er mwyn creu rhywbeth hardd ac o ansawdd uchel ar ffabrigau synthetig sydd wedi’u huwchgylchu. Yn y gweithdy bywiog ac ymarferol hwn byddwch yn cael cyfle i ddefnyddio sgiliau dylunio ac yn gadael â phrint unigryw.

Bywgraffiad o’r artist

Yn storïwr wrth natur ond yn artist o ddewis, mae Safiyyah / Sprig & Star Studio yn dechrau ar ei thaith greadigol drwy ymchwil reddfol, gan ddod o hyd i straeon unigryw yn yr amgylchedd o’i chwmpas. Mae’n chwilio am atgofion dirgel sy’n cuddio yn y byd naturiol, amgueddfeydd, pobl a strydoedd. Mae Safiyyah yn aml yn gweithio gydag amrywiaeth o dechnegau i archwilio straeon sy’n ymwneud â natur, treftadaeth a diwylliant gan ychwanegu naws arallfydol i wella ein profiad cyfrin o’r amgylchedd o’n cwmpas. Ar hyn o bryd mae hi’n gwneud gwaith allgymorth creadigol, gan archwilio sut i gysylltu â chymunedau drwy gariad cyffredin at greadigrwydd.

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â

Safiyyah Altaf Swyddog Creadigol Allgymorth: outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016

Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.