Dydd Sadwrn 13 Mehefin
Gweithdy i Oedolion
Gwehyddu Papur
2yb-3:30yp
Blaendal o £5 i bob teulu
Sylwch: Mae angen blaendal bach i sicrhau eich lle yn y gweithdy. Gellir ad-dalu’r blaendal hwn ar y diwrnod ar ôl i chi fod yn y gweithdy neu ei adael fel rhodd garedig i Oriel Mission i gefnogi ein rhaglen.
Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn
Mae’r gweithdai hyn yn rhan o’r prosiect ‘Our voice through making, Ein llais trwy creu’ sy’n cael ei ariannu’n garedig gan yr Ashley Family Foundation gyda chefnogaeth ymarferol Oriel Mission. Gan ganolbwyntio’n gryf ar allgymorth, nod y gweithdai hyn yw cysylltu’r gymuned leol â dwy artist ifanc yng Nghymru, sef Bonnie Grace a Safiyyah Altaf.
Bywgraffiad yr artist Bonnie Grace
Mae Bonnie Grace yn artist amlddisgyblaethol sy’n gweithio ym maes cerameg, arlunio, tecstilau a chreu printiau. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar nodweddion domestig ac addurnol hen greiriau. Mae Bonnie yn dechrau pob prosiect drwy arlunio â llinell di-dor, mae hyn yn ffordd o ymbellhau oddi wrth y gwrthrychau er mwyn eu dadansoddi, eu harchwilio a’u troi nhw’n rhywbeth mwy. Mae gweithio ar bapur yn rhoi ymdeimlad o ryddid, yn rhoi lle i brofi syniadau, eu hail-weithio a’u datblygu. Mae ei gwaith cerameg yn ddehongliad personol o lestri coffa a cerameg traddodiadol Prydain. Wrth weithio gyda chlai, mae hi’n ei chael hi’n anodd meddwl yn 3D. Mae hi’n rhoi slabiau o glai fel paent ar ei lluniau llinell, gan greu ffurfiau 2D, sy’n 3D hefyd.
Crynodeb
Gwehyddu Papur
Rhowch gynnig ar y weithred syml, greadigol o wehyddu papur yn y gweithdy ymarferol hwn. Gan ddefnyddio “catalog” o bapurau mewn gwahanol siapiau, lliwiau a gweadau, byddwch yn ychwanegu eich dyluniadau eich hun drwy wneud marciau, defnyddio testun a lluniadu, ac yna’n eu torri a’u gwau’n rhywbeth cwbl newydd. Arbrofwch gyda lliw, patrwm a gwead i greu cyfansoddiadau y gellir eu hail-lunio a chreu gwaith celf unigryw i chi fynd adref gyda chi.
—-
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Safiyyah Altaf swyddog creadigol allgymorth ar 01792652016 Outreach@missiongallery.co.uk
Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.


