Yr hyn rydym ni’n ei gynnig i ysgolion

 

Sgyrsiau yn yr Oriel

Mae’r sgyrsiau anffurfiol hyn yn para tua 20-30 munud ac yn cael eu cynnal yn y prif ofod arddangos/siop. Byddwn ni’n rhoi cyflwyniad i chi i’n harddangosfa bresennol, yn rhoi hanes byr Oriel Mission ac yn gorffen gyda sesiwn holi ac ateb.

Mae angen archebu lle.

Dim mwy na 30 myfyriwr

Rydym yn croesawu rhoddion

 


Gweithdy Celf mewn Ysgolion

Byddwn ni’n cynnal gweithdy celf wedi’i deilwra i anghenion eich myfyrwyr, a fydd yn cael ei gynnal yn eich ystafell ddosbarth ac yn gweithio gyda’r artistiaid proffesiynol ar y tîm allgymorth. Byddwn ni’n darparu’r holl ddeunyddiau i chi ar gyfer y gweithdy.

.

Mae angen cadw lle a byddwn ni’n trafod uchafswm nifer y myfyrwyr

Am 1 awr yn eich ysgol: £175 (yn cynnwys dau aelod o staff a deunyddiau) 

Am 2 awr yn eich ysgol: £250 (yn cynnwys dau aelod o staff a deunyddiau)

 


Dewch â’ch dosbarth i Oriel Mission

Dan arweiniad y tîm dysgu, mae’r gweithdai hyn wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfa bresennol ond gall hefyd gysylltu ag unrhyw fodiwlau/themâu y mae eich disgyblion yn eu hastudio.

Mae angen cadw lle a byddwn ni’n trafod uchafswm nifer y myfyrwyr

Gweithdy 2 awr: £50

Gweithdy 1 awr: £30