Digwyddiadau
Taith Sain-ddisgrifiadol: Annwn gan DARCH DARCH
27th November 2026 - 27th November 2026
11yb, Dydd Gwener 27 Tachwedd 2026
AM DDIM
Ymunwch ag artistiaid y DARCH Collective, sef Radha Patel ac Umulkhayr Mohamed, ar y daith sain-ddisgrifiadol arbennig hon o amgylch eu harddangosfa ‘Annwn’ yn Oriel Mission, Abertawe.
Mae Annwn yn osodwaith a seinwaith ymdrochol, sy’n adlewyrchu cysylltiad diasporig yr artist â Chymru, gan danlinellu ei phwysigrwydd fel tir tosturiol sy’n gyfoethog o ddiwylliant. Mae’n dwyn ynghyd eu treftadaeth ddiwylliannol Somaliaidd, Indiaidd a Chymreig, gan uno traddodiadau llên gwerin i greu defodau ecolegol newydd sy’n herio naratifau trefedigaethol am farwolaeth, dadfeiliaid a chamfanteisio ar y tir.
Bydd y daith bersonol hon yn rhoi cipolwg i chi ar brosesau creadigol yr artistiaid a gwell dealltwriaeth o sut a pham y gwnaethant y gwaith. Mae’r daith yn cael ei harwain gan yr artistiaid, sydd wedi cael hyfforddiant mewn sain-ddisgrifio gosodweithiau a gweithiau celf.
Cofiwch, os ydych chi’n dymuno dod â thywysydd neu gydymaith sy’n gallu gweld gyda chi, bydd angen i chi archebu tocyn ar gyfer pawb.
Os ydych chi’n dymuno gofyn am unrhyw gymorth ychwanegol ar gyfer mynediad, neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at: info@missiongallery.co.uk
Am DARCH
DARCH (g.1994, India/Somaliland/Cymru) DARCH yw practis cydweithredol yr artistiaid anabl o Gymru Umulkhayr Mohamed a Radha Patel.
Fel DARCH, mae ein hymarfer wedi’i wreiddio mewn defodau a chysegredigrwydd ein cysylltiadau â thir, hynafiaid ac ysbryd. Mae ein hymarfer creadigol yn dechrau drwy gynnal defodau, gan ymgynnull mewn mannau bwriadol sy’n gwahodd arweiniad gan blanhigion, y tir a’n hynafiaid. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn archwilio archifau ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau, rhyngom ni a’n cymuned ehangach, sydd i gyd yn ein helpu i ddatgelu a siapio llais ein gwaith. Mae’r sgyrsiau hyn yn hanfodol – maent nid yn unig yn ddeialog ond yn fath o ymchwil, sy’n ein harwain i ddeall beth mae ein gwaith eisiau ei gyfleu, ei ymgorffori a’i gynnig i eraill. Gwaith sain, storïaeth a chyfnewid agored yw sail ein dull gweithredu, gan ein galluogi i feithrin gofod creadigol sy’n mynd y tu hwnt i’r byd dynol ac yn anrhydeddu byd mwy na dynol. Mae’r gogwydd hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i animistiaeth ac anrhydeddu hynafiaid, yn ogystal â’n hymrwymiad i wleidyddiaeth ragddarluniol, sef gweithrediad arbrofol bwriadol o’r cysylltiadau a’r arferion cymdeithasol a ddeisyfir ar gyfer y dyfodol, yn y presennol.