Event
Digwyddiad Cloi Gwobr Jane Phillips
27th November 2026 - 27th November 2026
7 – 8.30pm nos Wener 27ain Tachwedd 2026
Lleoliad: Oriel Mission
Darperir lluniaeth
Ffarwel o Wobr Jane Phillips.
Mae Gwobr Jane Phillips yn gofeb i Jane Phillips (1957 – 2011), Cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission. Wedi’i lansio gan Oriel Mission yn 2011, crëwyd y wobr fel teyrnged i angerdd Jane dros gefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac yn gynnar yn eu gyrfa ar draws y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol.
Yn dilyn 15 mlynedd lwyddiannus, daw’r Wobr i ben yn 2026.
Mae Oriel Mission a Gwobr Jane Phillips yn eich gwahodd i ddathlu cyflawniadau’r wobr ac i gofio Jane yng nghwmni teulu, ffrindiau a chefnogwyr.
RSVP erbyn dydd Sadwrn 21ain Tachwedd trwy gysylltu â rhian@missiongallery.co.uk
Ynglŷn â’r Wobr
Cafodd ei chreu fel teyrnged i gyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission; daeth yn bosibl diolch i garedigrwydd llawer o artistiaid a gyfrannodd eu gwaith; ar bob lefel o’u gyrfa. Cafodd y gweithiau celf hyn eu harwerthu mewn ocsiwn fel rhan o Arwerthiant Celf yng Ngholeg Celf Abertawe, PCyDDS, â’r arian a godwyd yn mynd tuag at Wobr Jane Phillips.
Ers ei sefydlu yn 2011, mae Gwobr Jane Phillips wedi cefnogi 88 o artistiaid yn gynnar yn eu gyrfa a’r rhai sy’n dod i’r amlwg, gyda chyfleoedd i arddangos eu gwaith, neu fel artistiaid preswyl. Cryfhawyd nifer o’r cyfleoedd hyn ymhellach gan bartneriaethau â Choleg Celf Abertawe PCyDDS, Oriel Elysium, Ysgol Gelf Caerfyrddin a Choleg Gŵyr.
Mae artistiaid blaenorol wedi cynnwys Ryan L. Moule, Helen Dennis, Thibault Brunet, Harry Gammer-Flitcroft ymhlith llawer o rai eraill.

“Roedd Jane yn uchel iawn ei pharch yn y byd celf – roedd ei hymroddiad a’i hangerdd, ynghyd â synnwyr digrifwch gwych, yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan bawb a oedd yn rhan o Oriel Mission – fel teulu, allen ni ddim bod yn falchach.”
Roedd yr arddangosfeydd cyffrous, yn aml yn ddadleuol ac arloesol, yn eithriadol. Byddai’r arddangosfeydd preifat bywiog, a fyddai fel arfer yn gorffen yn nhafarn y Queens, yn nosweithiau difyr a chofiadwy, a byddai Jane wrth ei bodd. Arwydd sicr o arddangosfa dda.
Mae dweud bod colled fawr ar ôl Jane yn dweud rhy ychydig; fodd bynnag, er bod gwobr JPA wedi dod i ben, bydd gwaddol Jane yn cael ei gofio’n annwyl am flynyddoedd i ddod. “
-Claire Phillips ar ran teulu Jane.