Event
Annwn | Taith dan arweiniad Artistiaid DARCH DARCH
27th November 2026 - 27th November 2026
11yb, Dydd Gwener 27 Tachwedd 2026
AM DDIM
Ymunwch ag artistiaid y DARCH Collective, sef Radha Patel ac Umulkhayr Mohamed, ar y daith arbennig hon o amgylch eu harddangosfa ‘Annwn’ yn Oriel Mission, Abertawe
Mae Annwn yn osodwaith a gwaith sain ymdrochol, sy’n adlewyrchu cysylltiad diasporig yr artist â Chymru, gan danlinellu ei phwysigrwydd fel tir tosturiol sy’n gyfoethog o ddiwylliant. Mae’n dwyn ynghyd eu treftadaeth ddiwylliannol Somaliaidd, Indiaidd a Chymreig, gan uno traddodiadau llên gwerin i greu defodau ecolegol newydd sy’n herio naratifau trefedigaethol am farwolaeth, dadfeiliad a chamfanteisio ar y tir
Bydd y daith bersonol hon gan yr artist yn para awr, ac yn rhoi cipolwg i chi ar ymarfer a phroses greu’r artist, yn ogystal ag edrych yn fanylach ar y cyfeiriadau a’r themâu sy’n bresennol yn y gwaith. Mae’r arddangosfa’n cynnwys elfennau o osodwaith, fideo a cherflunwaith. Croesewir cwestiynau drwy gydol y daith ac ar y diwedd.
Os ydych chi’n dymuno gofyn am unrhyw gymorth ar gyfer mynediad, neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at: info@missiongallery.co.uk
Am DARCH
DARCH (g.1994, India/Somaliland/Cymru) DARCH yw practis cydweithredol yr artistiaid anabl o Gymru Umulkhayr Mohamed a Radha Patel.
Fel DARCH, mae ein hymarfer wedi’i wreiddio mewn defodau a chysegredigrwydd ein cysylltiadau â thir, hynafiaid ac ysbryd. Mae ein hymarfer creadigol yn dechrau drwy gynnal defodau, gan ymgynnull mewn mannau bwriadol sy’n gwahodd arweiniad gan blanhigion, y tir a’n hynafiaid. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn archwilio archifau ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau, rhyngom ni a’n cymuned ehangach, sydd i gyd yn ein helpu i ddatgelu a siapio llais ein gwaith. Mae’r sgyrsiau hyn yn hanfodol – maent nid yn unig yn ddeialog ond yn fath o ymchwil, sy’n ein harwain i ddeall beth mae ein gwaith eisiau ei gyfleu, ei ymgorffori a’i gynnig i eraill. Gwaith sain, storïaeth a chyfnewid agored yw sail ein dull gweithredu, gan ein galluogi i feithrin gofod creadigol sy’n mynd y tu hwnt i’r byd dynol ac yn anrhydeddu byd mwy na dynol. Mae’r gogwydd hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i animistiaeth ac anrhydeddu hynafiaid, yn ogystal â’n hymrwymiad i wleidyddiaeth ragddarluniol, sef gweithrediad arbrofol bwriadol o’r cysylltiadau a’r arferion cymdeithasol a ddeisyfir ar gyfer y dyfodol, yn y presennol.