Cafodd ‘Our voice through making, Ein llais trwy greu’ ei ariannu diolch i garedigrwydd yr Ashley Family Foundation gyda chefnogaeth ymarferol Oriel Mission. Nod y prosiect hwn, sy’n canolbwyntio’n gryf ar allgymorth, oedd cysylltu’r gymuned leol â dwy artist ifanc yng Nghymru, sef Bonnie Grace a Safiyyah Altaf.
Cefnogodd y prosiect arddangosfa’r artist Bonnie Grace Yr holl bethau dwi eisiau dweud wrthot ti ond dwi ddim yn gwybod sut. Cyflwynwyd sgwrs gan yr artist hefyd, ac mae modd gwrando ar recordiad yma Sgwrs gan Artist
Ochr yn ochr â’r arddangosfa, roedd y gymuned leol yn gallu galw heibio i un o’n sesiynau Arlunio Bywyd Llonydd, lle gallent gael eu hysbrydoli gan waith amlddisgyblaethol Bonnie ym maes serameg, arlunio, tecstilau a gwneud printiau. Roedd Bonnie hefyd yn gallu cyflwyno gweithdai i oedolion a theuluoedd a oedd yn agored i’r gymuned leol.
Rhan hanfodol o’r prosiect hwn oedd y bartneriaeth rhwng yr artistiaid a’r grŵp cymunedol lleol EYST. Cynhaliodd y ddwy artist weithdai, gan rannu eu hymarfer â grŵp cymorth EYST.Gyda chyfranogwyr yn gallu teimlo cysylltiad â’r celfyddydau yn Abertawe a’r gymuned o’u cwmpas wrth fagu hyder yn eu sgiliau creadigol.
Gyda chefnogaeth Ashley Family Foundation, lansiodd Oriel Mission ei Chlwb Crefft i Oedolion cyntaf erioed, wedi’i fodelu ar ein Clwb Crefft llwyddiannus i Blant, o dan arweiniad Swyddog Creadigol Allgymorth Oriel Mission, Safiyyah Altaf. Roedd gan oedolion rgymuned a oedd yn dymuno cymryd rhan y dewis i ddod i bedwar gweithdy tecstilau, a oedd
yn annog chwarae, creadigrwydd a lleihau gorbryder.
Diolch yn fawr:

