Diogelu yn Oriel Mission

 

Mae Oriel Mission yn cydnabod bod gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion yn ein cymuned yn fraint sy’n dod gyda chyfrifoldeb i’w cadw’n ddiogel. Mae Oriel Mission wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhai sy’n ymwneud â gwaith yr oriel a phrosiectau cysylltiedig yn cael eu diogelu a bod eu hawliau’n cael eu hamddiffyn bob amser. Felly, i bob aelod o staff, diogelwch a lles oedolion, plant a phobl ifanc sydd bwysicaf.

Ni ddylai oedolion, plant a phobl ifanc byth gael eu cam-drin mewn unrhyw ffordd. Mae gennym gyfrifoldeb i hyrwyddo lles pawb, i’w cadw’n ddiogel ac i weithio mewn ffyrdd sy’n eu hamddiffyn. Rydym yn cydnabod mai lles y plentyn sydd bwysicaf a bod gan bob plentyn yr hawl i gael ei amddiffyn yn gyfartal rhag pob math o niwed neu gamdriniaeth. Mae rhai plant yn fwy agored i niwed oherwydd effaith profiadau blaenorol, eu lefel o ddibyniaeth, eu hanghenion cyfathrebu, neu faterion eraill. Mae gweithio mewn partneriaeth â phlant, pobl ifanc, eu rhieni, gofalwyr ac asiantaethau eraill yn hanfodol er mwyn hyrwyddo lles plant.

Ein Mesurau Diogelu

  • Mae gennym bolisi a gweithdrefnau diogelu cadarn, a ddatblygwyd gyda’r NSPCC.
  • Mae’r holl staff wedi’u hyfforddi mewn diogelu; mae hyn yn cynnwys sut i adnabod arwyddion o gam-drin, sut i roi gwybod am amheuon a sut i ddelio â datgeliadau, a ddarperir gan yr NSPCC. 
  • Mae gennym ddau Swyddog Diogelu Dynodedig.
  • Mae gennym broses recriwtio fwy diogel sy’n cynnwys cynnal gwiriadau DBS, gwirio canolwyr a gofyn i staff lofnodi hysbysiad datgelu.

Fframweithiau Cyfreithiol

Mae ein polisi a’n gweithdrefnau Diogelu yn glynu wrth y fframweithiau cyfreithiol perthnasol;

  • Deddf Plant 1989
  • Deddf Plant 2004
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)
  • Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1991

 

 


 

Swyddogion Diogelu Dynodedig

Swyddog 1

Megan Leigh
megan@missiongallery.co.uk