Yr Oriel

Annwn DARCH

17th October 2026 - 28th November 2026

Mae Annwn yn herio naratifau trefedigaethol yn ymwneud â marwolaeth a’n perthynas â rhywogaethau eraill, drwy ddathlu’r ddaear fel safle’r cof, ail-eni a chyd-hanes, gan feithrin gweledigaeth o ryng-gysylltiad.

Mae Annwn yn ail-ddychmygu’r tir tanddaearol fel man cysegredig o adfywiad, dan arweiniad pryfed, myceliwm, a chreigwely’r Ddaear. Cafodd y sioe ei dangos am y tro cyntaf yn Biennial Lerpwl 2025, ac mae’n daith sy’n esblygu ledled Cymru gyda gwaith newydd ei gomisiynu yn ymddangos yn g39, Caerdydd a Mostyn, Llandudno yn ogystal ag Oriel Mission, ac yn cynnwys yr elfennau newydd canlynol:

Olwyn Ginetig

I DARCH, mae’r Olwyn yn symbol o ailgysylltu’r Ddaear a’r Awyr. Mae cyfalafiaeth wedi gwahanu’r Ddaear a’r Awyr drwy briodoli’r pridd neu’r ddaear fel lle i’r gweithwyr ‘isel’, a’r Awyr neu’r nenfwd fel lle i ‘brif weithredwyr, penaethiaid neu bobl sy’n cael eu hystyried yn bwysicach’. Mae’r metel, y ffoil a’r drych yn adlewyrchu pridd y Ddaear, gan danlinellu ei phwysigrwydd a gofyn i bobl edrych eto ar y byd islaw. 

Printiau

Mae gosodwaith canolog yr arddangosfa, ‘Heaven in the Ground’, yn adrodd stori creigwely – sef y ddaear o dan ein traed – fel rhywbeth sy’n dda am ddal pob hanes; y cynhanesyddol, y trefedigaethol, y personol, yn ogystal â phob dyfodol caredicach posibl. Ac wrth wneud hynny, mae’n ail-ddychmygu’r ddaear fel man cysegredig o adfywiad, lle mae pryfed yn dywyswyr ysbrydion sy’n ein harwain, fel y maent bob amser, drwy’r bywyd tragwyddol y datgelwyd ei fod yn lle o faddeuant, cysylltiad hynafiadol, ymyrraeth ddwyfol ac yn wersi a ddysgwyd heb gosb na dirmyg. Mae’r seinwedd sy’n tanlinellu’r stori yn cyfuno samplau o ganeuon sy’n gysylltiedig â magwraeth ddiwylliannol a chrefyddol yr artistiaid, archifau sain, ac elfennau gwreiddiol wedi’u cyfansoddi i wneud bywioldeb y Ddaear, ei thrigolion tanddaearol a’i rhinweddau iwtopaidd yn glywadwy. 

Mae’r arddangosfa hon yn falch o adlewyrchu cysylltiad diasporig DARCH â Chymru, gan ddod â’u treftadaeth ddiwylliannol Somaliaidd, Indiaidd a Chymreig at ei gilydd ac uno traddodiadau llên gwerin i greu defodau ecolegol newydd sy’n herio naratifau trefedigaethol o farwolaeth, dadfeiliad a chamfanteisio ar y tir.

Yn wreiddiol, cafodd Annwn ei gyd-gomisiynu ar gyfer Liverpool Biennial 2025, BEDROCK, gan At The Library/Rule of Threes Arts a Liverpool Biennial, gyda chefnogaeth hael gan FACT Lerpwl.

Mae’r arddagosiad yn Oriel Mission wedi ei gefnogi gan Gwobr Jane Phillips.