Maker
Pethau Gwerthfawr Caroline Brogden | Eto Eto | Relic Plastic
11th July 2026 - 19th September 2026
Casgliad o waith sydd yn trin â gwastraff gan Caroline Brogden, Eto Eto a Relic Plastic.
Wrth i adnoddau’r ddaear leihau, mae mwy a mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu ac mae mwy a mwy o’r gwastraff hwnnw’n mynd i’r amgylchedd naturiol. Dydy’r arfer o “gymryd, gwneud a gwastraffu” ddim yn gynaliadwy mwyach. Yn hytrach, rhaid inni symud tuag at ddull mwy cylchol, lle mae gwastraff yn cael ei ailddychmygu fel ‘peth gwerthfawr’; sy’n llawer rhy werthfawr i’w waredu.
Arddangosiad i gyd-fynd gyda’n prif arddangosfa, gan nodi dechrau dwy flynedd o raglen a fydd yn procio’r meddwl gyda gwaith sy’n herio’r canfyddiad o wastraff ac yn tynnu sylw at botensial cylchol deunyddiau. Bydd Pethau Gwerthfawr yn dangos sut gall artistiaid, gwneuthurwyr, myfyrwyr a chymunedau weithio gyda’i gilydd i ysbrydoli newid drwy ymarfer creadigol.
I ddarganfod mwy am brosiect Pethau Gwerthfawr
Delwedd: Relic Plastic.
Mae Pethau Gwerthfawr yn cael ei weinyddu gan Oriel Mission; gan gydweithio gyda’r prif artist Bronwen Gwillim.
Gyda diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am wneud prosiect Pethau Gwerthfawr yn bosib.
