Exhibition

Pethau Gwerthfawr Arddangosfa

11th July 2026 - 19th September 2026

Agoriad arddangosfa: 2yp, dydd Sadwrn 11 Gorffennaf 2026

AM DDIM | Croeso i bawb | Darperir lluniaeth

Seminar Pethau Gwerthfawr: Dydd Sadwrn 19 Medi 2026 | Gwybodaeth i ddilyn

 

Wrth i adnoddau’r ddaear leihau, mae mwy a mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu ac mae mwy a mwy o’r gwastraff hwnnw’n mynd i’r amgylchedd naturiol. Dydy’r arfer o “gymryd, gwneud a gwastraffu” ddim yn gynaliadwy mwyach. Yn hytrach, rhaid inni symud tuag at ddull mwy cylchol, lle mae gwastraff yn cael ei ailddychmygu fel ‘peth gwerthfawr’; sy’n llawer rhy werthfawr i’w waredu.

Mae’r arddangosfa’n nodi dechrau dwy flynedd o raglen a fydd yn procio’r meddwl gyda gwaith sy’n herio’r canfyddiad o wastraff ac yn tynnu sylw at botensial cylchol deunyddiau. Bydd Pethau Gwerthfawr yn dangos sut gall artistiaid, gwneuthurwyr, myfyrwyr a chymunedau weithio gyda’i gilydd i ysbrydoli newid drwy ymarfer creadigol.

 

Artistiaid yr arddangosfa:

Billie Ireland | Hannah Elizabeth Jones | Onya McCausland | Ophelia Dos Santos | Rose Sanderson | Siân Lester | Sophie Ferrier

 

Artistiaid Gwagle Gwastraff:

Alex Duncan | Grant Lambie | Lucy Newman | Lucy Warry

 


 

Mae Pethau Gwerthfawr yn cael ei weinyddu gan Oriel Mission; gan gydweithio gyda’r prif artist Bronwen Gwillim.

Delwedd: Dirty Washing, Rose Sanderson. Cyfrwng cymysg, basged dillad a dillad ailgylchol, wedi eu gwnïo gyda llaw a pheiriant, â’u stwffio gyda wadin clustog wedi ei ailgylchu a fflwff peiriant sychu.

 


 

Gyda diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am wneud prosiect Pethau Gwerthfawr yn bosib.