Event
Sesiynau Bywyd Llonydd Mynnwch Ysbrydoliaeth, ewch ati i Baentio Bywyd Lonydd
27th June 2026 - 27th June 2026
Gweithgaredd galw-i-fewn hunan arweiniol, arhoswch am 20 munud neu ychydig oriau; dewch i greu!
Mae’r sesiynau yn agored i bawb.
Sylwch: Mae angen blaendal bach o £2 i sicrhau eich lle yn y sesiwn. Gellir ad-dalu’r blaendal hwn ar y diwrnod ar ôl i chi fod yn y gweithdy neu ei adael fel rhodd garedig i Oriel Mission i gefnogi ein rhaglen.
Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn.
Mewn ymateb i arddangosfa Bonnie Grace ‘Yr holl bethau rydw i eisiau eu dweud wrthych chi, ond dw i ddim yn gwybod sut’ yn Oriel Mission, dyma wahoddiad i chi greu eich paentiad bywyd llonydd eich hun gan ddefnyddio’r offer a deunyddiau sydd wedi’u darparu.
Rydyn ni wedi creu cynllun 4 wythnos i’r rhai sydd eisiau dychwelyd i’r oriel a chymryd mantais ar y gweithgaredd hwn, sydd am ddim; ond mae croeso cynnes i chi hefyd greu paentiad mewn un sesiwn yn unig!
Wythnos 1 – Lluniadu
Wythnos 2 – Lliw
Wythnos 3 – Paentio
Wythnos 4 – Manylion i orffen
Mae’r sesiynau yn agored i bawb.
Sylwch: Mae angen blaendal bach o £2 i sicrhau eich lle yn y sesiwn. Gellir ad-dalu’r blaendal hwn ar y diwrnod ar ôl i chi fod yn y gweithdy neu ei adael fel rhodd garedig i Oriel Mission i gefnogi ein rhaglen.
Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol nad yw’n ad-daladwy. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn.
Darperir taflen weithgaredd a pheth deunyddiau.
10yb – 2yp: Gweithgaredd hunan arweiniol galw-heibio; cewch aros am gyhyd ag y dymunwch.
Cofiwch fod yn rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser.