Wrth i adnoddau’r ddaear leihau, mae mwy a mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu ac mae mwy a mwy o’r gwastraff hwnnw’n mynd i’r amgylchedd naturiol. Dydy’r arfer o “gymryd, gwneud a gwastraffu” ddim yn gynaliadwy mwyach. Yn hytrach, rhaid inni symud tuag at ddull mwy cylchol, lle mae gwastraff yn cael ei ailddychmygu fel ‘peth gwerthfawr’; sy’n llawer rhy werthfawr i’w waredu.
Bydd Pethau Gwerthfawr yn dangos sut gall artistiaid, gwneuthurwyr, myfyrwyr a chymunedau weithio gyda’i gilydd i ysbrydoli newid drwy ymarfer creadigol.
Y Prosiect: Pethau Gwerthfawr
Bydd y prosiect yn para dwy flynedd ac yn cael ei lansio ar 11 Gorffennaf 2026. Bydd yn dechrau gydag arddangosfa sy’n procio’r meddwl gyda gwaith sy’n herio’r canfyddiad o wastraff ac yn tynnu sylw at botensial cylchol deunyddiau fel plastig, tecstilau, papur a gwydr.
Mae’r arddangosfa’n nodi dechrau dwy flynedd o raglen a fydd yn cynnwys:
– Cyfres o seminarau
– Gweithdai
– Rhaglen allgymorth cymunedol ac addysg uwch
– Creu a datblygu Rhwydwaith Artistiaid Cynaliadwy ledled Cymru
Penllanw’r rhaglen fydd Marchnad Gwneuthurwyr Cynaliadwy yn Oriel Mission ym mis Hydref 2027.
Y Nod
Un o brif uchelgeisiau’r prosiect yw rhoi hwb i rwydwaith artistiaid ledled Cymru dan arweiniad cymheiriaid, i gefnogi artistiaid profiadol ac artistiaid newydd gymhwyso, fel ei gilydd, drwy rannu arferion da, annog datblygu gwaith newydd, cydweithio, a threfnu arddangosfeydd a chyfleoedd marchnata yn y dyfodol.
Cymryd Rhan (Rhestr Bostio)
Os ydych chi’n ymddiddori mewn cynaliadwyedd ac eisiau:
- Mynd i weithdai a seminarau
- Dysgu am gyfleoedd yn y dyfodol, fel: Y Farchnad Gwneuthurwyr Cynaliadwy ym mis Hydref 2027 a’r Rhwydwaith Artistiaid/Gwneuthurwyr Cynaliadwy
Anfonwch e-bost at: project.preciousthings@gmail.com
Llinell pwnc: Ychwanegu at y Rhestr Bostio
Gyda diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am wneud prosiect Pethau Gwerthfawr yn bosib.

