Pethau Gwerthfawr
Galwad Agored i Artistiaid a Gwneuthurwyr
Dyddiad cau: 8pm, Dydd Mercher 27ain Mai 2026
Wrth i adnoddau’r ddaear leihau, mae mwy a mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu ac mae mwy a mwy o’r gwastraff hwnnw’n mynd i’r amgylchedd naturiol. Dydy’r arfer o “gymryd, gwneud a gwastraffu” ddim yn gynaliadwy mwyach. Yn hytrach, rhaid inni symud tuag at ddull mwy cylchol, lle mae gwastraff yn cael ei ailddychmygu fel ‘peth gwerthfawr’; sy’n llawer rhy werthfawr i’w waredu.
Bydd Pethau Gwerthfawr yn dangos sut gall artistiaid, gwneuthurwyr, myfyrwyr a chymunedau weithio gyda’i gilydd i ysbrydoli newid drwy ymarfer creadigol.
Y Prosiect: Pethau Gwerthfawr
Bydd y prosiect yn para dwy flynedd ac yn cael ei lansio ar 11 Gorffennaf 2026. Bydd yn dechrau gydag arddangosfa sy’n procio’r meddwl gyda gwaith sy’n herio’r canfyddiad o wastraff ac yn tynnu sylw at botensial cylchol deunyddiau fel plastig, tecstilau, papur a gwydr.
Mae’r arddangosfa’n nodi dechrau dwy flynedd o raglen a fydd yn cynnwys:
– Cyfres o seminarau
– Gweithdai
– Rhaglen allgymorth cymunedol ac addysg uwch
– Creu a datblygu Rhwydwaith Artistiaid Cynaliadwy ledled Cymru
Penllanw’r rhaglen fydd Marchnad Gwneuthurwyr Cynaliadwy yn Oriel Mission ym mis Hydref 2027.
Y Nod
Un o brif uchelgeisiau’r prosiect yw rhoi hwb i rwydwaith artistiaid ledled Cymru dan arweiniad cymheiriaid, i gefnogi artistiaid profiadol ac artistiaid newydd gymhwyso, fel ei gilydd, drwy rannu arferion da, annog datblygu gwaith newydd, cydweithio, a threfnu arddangosfeydd a chyfleoedd marchnata yn y dyfodol.
Cymryd Rhan (Rhestr Bostio)
Os ydych chi’n ymddiddori mewn cynaliadwyedd ac eisiau:
- Mynd i weithdai a seminarau
- Dysgu am gyfleoedd yn y dyfodol, fel: Y Farchnad Gwneuthurwyr Cynaliadwy ym mis Hydref 2027 a’r Rhwydwaith Artistiaid/Gwneuthurwyr Cynaliadwy
Anfonwch e-bost at: project.preciousthings@gmail.com
Llinell pwnc: Ychwanegu at y Rhestr Bostio
Galwad Agored ar gyfer Cyfleoedd
Dyddiad cau: 8pm, Dydd Mercher 27tain Mai 2026
Rydym yn gwahodd artistiaid a gwneuthurwyr sy’n rhoi sylw canolog yn eu gwaith i’w defnydd o ddeunyddiau gwastraff i gymryd rhan mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:
Arddangos: Cyflwynwch waith bach gyda disgrifiadau byr ar gyfer y “Man Gwastraff”, sef ardal bwrpasol ar gyfer:
– Arbrofion ar ddeunyddiau
– Canfyddiadau ymchwil
– Gwaith ar y gweill
– Enghreifftiau o dechnegau a phrosesau
Sylwch: Rhaid i’r gwaith ffitio o fewn 40 x 40cm.
Sgwrs: Mynegwch ddiddordeb mewn cyflwyno sgwrs fer am eich gwaith yn un o’r seminarau.
Gweithdai: Cynigiwch weithdy yr hoffech ei gynnal sy’n mynd ati mewn ffordd greadigol i ystyried y defnydd o ddeunyddiau gwastraff, ac sy’n addas ar gyfer pobl ifanc, oedolion a/neu’r cyhoedd yn ehangach.
Gwerthu: Anfonwch ddelweddau a phrisiau cynhyrchion crefft a dylunio sydd wedi’u gwneud o wastraff ac y gellid eu gwerthu yn siop yr oriel ‘ar sail gwerthiant neu ddychwelyd’.
Sylwch:
Bydd proses ddethol ar gyfer yr holl gyfleoedd uchod.
Mae ffioedd ar gael am gynnal gweithdy neu siarad mewn seminar.
Sut mae Gwneud Cais
Arddangos:
Gwybodaeth angenrheidiol:
– Disgrifiad o’r gwaith i’w gynnwys yn y ‘Man Gwastraff’ (dim mwy na 50 gair)
-Disgrifiad gan yr artist (dim mwy na 100 gair)
– Lluniau eglur iawn
– Dolen(ni) gwefan/cyfryngau cymdeithasol
Sgwrs:
Gwybodaeth angenrheidiol:
– Datganiad gan yr artist
– Dolen gwefan/cyfryngau cymdeithasol
– Disgrifiad byr o’r hyn yr hoffech chi siarad amdano.
-Themau trafodaethau posib: Aros yn obeithiol / Beth sy’n digwydd i’n gwastraff ailgylchu / Ymarfer celf Sero Net / Gwastraff a natur / Gweithredu ar Hinsawdd / Cydweithio rhwng celf a gwyddoniaeth
Gweithdai:
Gwybodaeth angenrheidiol:
– Cynnig gweithdy (dim mwy na 500 gair)
– Datganiad gan yr artist (dim mwy na 100 gair)
– Amlygu profiad addysgu (dim mwy na 100 gair)
– Dolen(ni) gwefan/cyfryngau cymdeithasol
Gwerthu:
-Datganiad yr Artist
-Lluniau eglur iawn o weithiau yr hoffech eu cynnwys yn y siop
-Rhestr o’r prisiau gyda disgrifiadau a phris adwerthu
-Dolen gwefan/cyfryngau cymdeithasol
Dyddiad cau: 8pm, Dydd Mercher 27ain Mai 2026
Anfonwch eich cais at:
project.preciousthings@gmail.com
Gydag un neu ragor o’r penawdau pwnc canlynol:
Pethau Gwerthfawr: Arddangos
Pethau Gwerthfawr: Sgwrs
Pethau Gwerthfawr: Gweithdai
Pethau Gwerthfawr: Gwerthu
Nodiadau ychwanegol:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am yr alwad agored hon, cysylltwch â:
Pethau Gwerthfawr | project.preciousthings@gmail.com
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd angen danfon gwaith i’r oriel erbyn 27 Mehefin 2026 fan bellaf.
Cofiwch fod Oriel Mission ar agor rhwng dydd Mercher a dydd Sadwrn yn unig.
