Beth Rydyn Ni’n ei Gynnig i Grwpiau Cymunedol

 

Partneriaethau Prosiect

Rydyn ni’n aml yn gweithio gyda grwpiau cymunedol i greu prosiect pwrpasol sydd wedi’i deilwra i anghenion eu haelodau. Y tu allan i leoliadau addysg, gall fod yn anodd cael mynediad at y celfyddydau. Gall aelodau’r gymuned wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol. Rydyn ni’n rhaglennu sesiynau gyda phwyslais ar ddatblygu creadigol, gwella rhyngweithio cymdeithasol, hyder, iechyd meddwl a llesiant. Anogir y rhai sy’n cymryd rhan yn ein prosiectau i roi cynnig ar wahanol gyfryngau drwy weithio’n agos gydag amrywiaeth o artistiaid proffesiynol medrus iawn. Gellir cynnal sesiynau yn ein horiel neu mewn man y mae grwpiau cymunedol yn gyfarwydd ag ef. Mae’r sesiynau creadigol hyn yn aml yn arwain at arddangosfa wych yma yn yr oriel, gan arddangos datblygiad ymarfer creadigol y grŵp.

 


Gweithdai Celf dan arweiniad Artist

Yn cael eu cynnal naill ai yn ein horiel neu yn eich man gwaith, byddwn yn cysylltu eich aelodau ag artist proffesiynol a fydd yn llunio ac yn cyflwyno gweithdy celf arbenigol wedi’i deilwra i anghenion eich grŵp. Byddwn ni’n darparu’r holl ddeunyddiau i chi ar gyfer y gweithdy. Mae pob gweithdy yn para am 2 awr.

Rhaid Archebu £250*

*Mae’r ffi hon yn talu am gostau’r artist yn unig, gydag Oriel Mission yn darparu’r deunyddiau

 


Gweithdai Celf dan arweiniad ein tîm Allgymorth

Mae’r sesiynau hyn, sy’n cael eu cynnal yn Oriel Mission neu yn eich man cymunedol, yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau sy’n chwilio am rywbeth creadigol sy’n seiliedig ar brosesau. Dan arweiniad yr artistiaid proffesiynol yn ein tîm dysgu, byddwn yn gweithio gyda chi i lunio gweithdy. Gallwn weithio gyda’ch grŵp i greu sesiwn bwrpasol, gan ystyried unrhyw anghenion hygyrchedd. Mae pob gweithdy yn para am 2 awr.

 

Rhaid Archebu £125

 

*Os ydych chi’n bartner elusennol newydd, gallwn gynnig y gweithdy cyntaf ar sail rhoddion