Yr Oriel

Yr holl bethau dwi eisiau dweud wrthot ti, ond dwi ddim yn gwybod sut Bonnie Grace

18th April 2026 - 27th June 2026

Mae Bonnie Grace yn artist amlddisgyblaethol; yn gweithio mewn serameg, lluniadu, tecstilau ac argraffu. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio yn y domestig a’r addurniadol, gan droi o amgylch pethau hynafol. Daeth ei diddordeb mewn serameg yn sgil tyfu i fyny gyda’i mam yn gwerthu hen bethau; gyda thŷ yn llawn amrywiaeth o batrymau a siapiau. 

Mae Bonnie yn defnyddio lluniadau â llinell barhaus i gychwyn pob prosiect fel ffordd o bellhau ei hun oddi wrth y gwrthrychau er mwyn eu dadansoddi, eu harchwilio a’u rhyngweithio. Mae ei serameg yn ddehongliad personol o nwyddau coffaol a serameg draddodiadol. Wrth i Bonnie barhau i greu, mae hi’n ffurfio ei fersiwn ei hun o gasgliad ar gyfer dreser Cymreig, sy’n adlewyrchu ei threftadaeth Gymreig a’i hanes personol. 

Wrth weithio â chlai, mae hi’n cael trafferth meddwl mewn 3D. O’i lluniadau llinell sigledig, mae hi’n defnyddio slabiau clai fel pe baent yn bapur, gan greu ffurfiau 2D ond eto 3D. O fewn ei dyluniadau, mae hi’n defnyddio ei hiaith godio ei hun; wedi’i hysbrydoli gan gôd deuaidd a’r gridiau ailadroddus a geir mewn tecstilau – fel ffordd o fynegi ei meddyliau a’i theimladau.