Y Wal
Rosie Harman Y Wal a'r Gwneuthurwr
06/03/2023 - 07/29/2023
Mae gwaith Rosie yn symud rhwng 2D a 3D, o luniadau llyfr braslunio a photiau wedi’u peintio i gerflunwaith a serameg wal. Daw’r gwaith a gyflwynir yn Oriel Mission ar ôl cyfnod o dynnu lluniau dwys yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol. Roedd y profiad wedi arwain at ail-werthuso ei pherthynas â thynnu llun ar bapur a chreu darn o waith gyda chlai, gan deimlo cyffro wrth bylu’r llinellau rhwng y ddau. Mae’r wal yn troi’n dudalen llyfr braslunio ar gyfer ffurfiau serameg, gan greu naratifau amwys sy’n gwahodd y gwyliwr i lenwi’r bylchau gyda’i ddychymyg ei hun.

Delwedd: Gwaith mewn datblygiad, Rosie Harman