Event

Digwyddiad #2: AGOR Digwyddiad anffurfiol o Fenywod-artistiaid sydd â diddordeb

10/27/2023 - 10/27/2023

5.30 – 7.30yh, nos Wener 27 Hydref 2023

Lleoliad: Oriel Mission

I fwcio lle, cliciwch yma

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad Agor mis Gorffennaf a gynhaliwyd yn Oriel Mission ac yn Pontio, Bangor, mae Agor yn falch iawn o gynnal digwyddiad anffurfiol o Fenywod-artistiaid sydd â diddordeb.

Bydd y digwyddiad yn dechrau drwy fod pawb yn mynd i weld arddangosfa MiniPrint Wales gyda Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr prosiect MiniPrint Wales Gweithdy Argraffu Abertawe. Yn dilyn hyn, ceir cyfle i rannu a thrafod eich ymarfer gydag artistiaid eraill ochr yn ochr â diweddariadau am brosiectau AGOR i’r dyfodol (gyda newyddion gan Atelierhof Werenzhain).

Aelodau sefydlol AGOR Chris Bird-Jones a Beate Gegenwart fydd yn eich croesawu.

Rhaglen breswyliadau arbrofol a sefydlwyd i gryfhau’r cysylltiadau rhwng menyw-artistiaid o Gymru a’r Almaen yw Agor. Mae’n ymchwiliol ei natur, a’i nod yw adeiladu ar ddeialog a rhannu agored, gan ddatblygu perthnasoedd gweithio.

Am fwy o wybodaeth: www.agor-opening.com

Croeso i bawb

Digwyddiad am ddim gyda peth lluniaeth.

Croesewir rhoddion.

 

 

 

Please book your place here