Event

Dydd Mercher Barddoniaeth Merched ar Lestri | Gweithgaredd Galw-i-fewn

06/11/2025 - 08/27/2025

Galw ar bawb sy’n frwd am farddoniaeth – rydym ni’n agor ein drysau i’r rhai sy’n mwynhau barddoniaeth, o bob gallu, i ddod i greu ar ddydd Mercher!

I ddathlu agoriad arddangosfa Merched ar Lestri, cydweithiad artistig rhwng yr artist cerameg Lowri Davies a’r bardd Elinor Gwynn, rydym ni’n agor ein drysau i’r rhai sy’n mwynhau barddoni, o bob gallu, i ddod i greu ar ddydd Mercher.

Mae’r bardd Elinor Gwynn wedi creu gweithgaredd hunan arweiniol i chi – arhoswch am 20 munud neu ychydig oriau; dewch i greu a sgwrsio dros baned!

Mae’r sesiynau am ddim ac yn agored i bawb.

11am – 2pm: Gweithgaredd galw-heibio; cewch aros am gyhyd ag y dymunwch.

Cofiwch fod yn rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

Archebwch Eich Lle Yma

Dyddiadau:

11 Mehefin 2025

18 Mehefin 2025

25 Mehefin 2025

02 Gorffennaf 2025

09 Gorffennaf 2025

16 Gorffennaf 2025

23 Gorffennaf 2025

30 Gorffennaf 2025

06 Awst 2025

13 Awst 2025

20 Awst 2025

27 Awst 2025

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Rhian Wyn Stone, Cyfarwyddwr Oriel, ar 01792 652016 neu e-bostiwch

rhian@missiongallery.co.uk

Darperir deunyddiau. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

Mae mynediad un cam i fyny o lefel y palmant trwy ein prif fynedfa.

Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn yr oriel sydd wedi’i leoli ar lawr gwaelod yr adeilad.

Merched ar Lestri; curadwyd gan Sioned Phillips.

Delwedd: Manylion o arddangosfa Merched ar Lestri, delwedd gan Dewi Tannatt Lloyd.