Event

Penwythnos Agoriadol y Nadolig MiniPrint Cymru | Wales

11/08/2025 - 11/09/2025

Hoffai Oriel Mission eich gwahodd i benwythnos agoriadol y Nadolig gydag agoriad MiniPrintCymru |Wales, a dadorchuddiad siop Nadolig Oriel Mission.

10yb – 5yp, dydd Sadwrn 8fed a dydd Sul 9fed Tahcwedd 2025


Beth yw MiniPrint Cymru | Wales?

Mae MiniPrint Cymru | Wales yn fenter sydd wedi’i chynllunio i godi proffil gwneud printiau ledled Cymru drwy gydweithrediad sefydliadau partner rhanbarthol: Yr Academi Frenhinol Gymreig (Gogledd), Gweithdy Argraffu Abertawe (De), Gwneuthurwyr Printiau Aberystwyth (Gorllewin) a’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol (Dwyrain).

Wedi’i ddatblygu o brosiect peilot yn 2023 dan arweiniad Gweithdy Argraffu Abertawe, uchelgais MiniPrint Cymru | Wales yw creu digwyddiad cynaliadwy, bob dwy flynedd ar draws Cymru, gyda sefydliadau partner rhanbarthol yn cynnal y rhaglen a’r arddangosfa ar sail cylchdro.