Clai Metel Gwerthfawr: Gweithdy Gemwaith Arian
Dydd Sul 17 Tachwedd
11am-3pm | £50 | Gweithdy i Oedolion
Eventbrite:Precious Clai Metel Gwerthfawr: Gweithdy Gemwaith Arian- Helen Kenna
Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn
Os ydych chi’n prynu’r gweithdy hwn fel anrheg, anfonwch ebost at outreach@missiongallery.co.uk i wneud cais am docyn i’w lawrlwytho.
—
Bywgraffiad yr artist: Helen Kenna
Mae gan Helen BA ac MA mewn gwydr o Goleg Celf Abertawe, ynghyd â Thystysgrif Addysg i Raddedigion mewn Celf a Dylunio.
Fodd bynnag, ar ôl hyfforddi am City and Guilds mewn Gemwaith Clai Metel Gwerthfawr yng Ngholeg Abertawe, ac yna lefelau Dechreuwr i Uwch mewn technegau gof arian traddodiadol, roedd gemwaith arian wedi arwain at greu’r busnes newydd Helen Kenna Creations yn 2013. Mae hi bellach yn cael llawer o bleser yn cynnal ei dosbarthiadau ei hun mewn gwneud gemwaith a gwydr lliw.
Amlinelliad
Ymunwch â’ch tiwtor Helen Kenna i ddysgu sut i wneud gemwaith gan ddefnyddio 7g o glai arian yn y gweithdy hwn! Byddwch yn dysgu am Glai Metel Gwerthfawr ac yn cael llawer o awgrymiadau defnyddiol ar ddefnyddio’r clai arian mân 999 (925 yw arian pur) i greu pendant, clustdlysau, neu hyd yn oed y ddau os yw’n well gennych eitemau llai o emwaith.
Cyflwyniadau ac arddangosiadau-
Yn y 30 munud cyntaf o’r gweithdy byddwch yn cael gwybodaeth gefndirol am Glai Metel Gwerthfawr ac yn edrych ar amrywiaeth o emwaith sy’n dangos ei hyblygrwydd. Yna rhoddir dau arddangosiad, gan gynnwys gwneud mowldiau a sut i batrymu a siapio’r clai metel gwerthfawr.
Dyluniad-
Byddwch yn cael tua 15 – 20 munud i benderfynu ar eich dyluniad, dewis y siâp/gwead, a gwneud mowld o’r darn o’ch dewis. Mae croeso i chi ddod ag addurn bach, cragen, botwm (rhwng maint darnau 5 – 10c) yr hoffech ei gael mewn arian – bydd detholiad ar gael i’w defnyddio.
Creu-
Byddwch yn greadigol! Byddwch yn cael tua 45 munud i greu eich syniadau. Pan fydd y rhain yn barod, byddant yn cael eu rhoi ar blatiau poeth i sychu am ryw 10 munud. Yn ystod y cyfnod sychu, dangosir sut mae gwneud ac atodi’r bar (y darn yr ydych yn rhoi cadwyn drwyddi).
Y cyffyrddiadau olaf-
Byddwch yn cael 30 i 40 munud i sandio a thacluso eich darnau, yn ogystal â chreu ac ychwanegu eich barrau. Bydd y rhain yn mynd yn ôl ar y plât poeth tra byddwch yn gwylio arddangosiad o ddefnyddio chwythlamp. Yna, mewn grwpiau o 3 neu 4, gan ddefnyddio chwythlamp fach, bydd pawb yn cynhesu ei ddarnau ar friciau tanio am tua 5 munud.
Yn olaf, ond nid y lleiaf, bydd yr holl ddarnau’n cael eu sgleinio am 10 munud yn y teclyn twmblo tra byddwn ni’n clirio ein mannau gwaith ac yn rhoi clod mawr i ni ein hunain!
—
Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.