Dydd Sadwrn 26 ain Ebrill 2025

11am-3pm | Gweithdy i oedolion | £50 | Darperir lluniaeth

Tlysau Porslen Prydferth gyda Kat Silvera-Sunley

Eventbrite:Tlysau Porslen prydferth

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

Bywgraffiad o’r artist

Mae Katherine (neu Kat) Silvera-Sunley yn fenyw o Jamaica sydd wedi byw mewn ychydig o lefydd, gan gyrraedd hen dref lofaol oer yng nghymoedd Cymru yn y pen draw. Astudiodd Celfyddyd Gain ym Mryste yn Lloegr ond roedd wedi bod yn datblygu ei hymarfer celf ers tro byd cyn hynny. Magodd ddiddordeb mewn cerameg pan roedd hi’n byw ym Malta fel ffordd o wneud ei chelf yn haws ei gludo. Mae hi’n creu yn ei stiwdio gartref, ac mae hi wrth ei bodd yn creu celf sydd o fewn cyrraedd pobl yn ariannol ac yn ddeallusol. Mae hi’n credu bod lle mewn celfyddyd gyfoes / celfyddyd gain, i waith sy’n caniatáu i ni gael mynediad at ba emosiwn bynnag y mae arnom eisiau ei gael – boed hynny’n hapusrwydd neu’n dristwch, heb iddo fod yn rhywbeth egsgliwsif, cymhleth neu gysyniadol iawn ei natur.

Crynodeb o’r Gweithdy

Dewch atom am weithdy porslen gwych gyda Kat Silvera-Sunley. Bydd Kat yn dangos i chi sut mae hi’n gwneud tlysau a thrysorau bach drwy ddefnyddio porslen a gwifren.

Yn gyntaf, bydd Kat yn dangos i chi sut mae gwireddu syniad a allai fod gennych ar gyfer tlws, yna byddwch yn ychwanegu gwifren odyn i’ch darn arbennig, gan ei orffen drwy baentio ac addurno.

Bydd pob un ohonoch yn cael cyfle i wneud 4 tlws bach. Bydd Kat yno i’ch tywys drwy’r broses gyfan – gan fod y gweithdy hwn wedi’i gynllunio i fod yn agored i bobl o bob lefel artistig, gyda chefnogaeth ei hyfforddiant arbenigol. Yna, bydd Kat yn mynd â’r gweithiau hyn yn ôl i’w stiwdio, a phan fyddan nhw’n ddigon sych, bydd yn dechrau eu tanio a bydd hynny’n cael ei wneud 3 gwaith. Gan gynnwys i ychwanegu sglein aur (os ydych chi’n dewis) y tro olaf

Ar ôl hynny, byddwn yn trefnu i chi gasglu eich creadigaethau o’r oriel

Nid oes angen profiad blaenorol, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu cynnwys fel rhan o’r gweithdy.

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.