Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf
11am-3pm | £50 | Gweithdy i Oedolion
Darperir lluniaeth
Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol.
—
Porslen: arwyneb a thryloywder gyda’r artist Lowri Davies
Bywgraffiad yr artist:
Lowri Davies
Rwy’n gweithio fel artist seramig ers 2001, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio o’m stiwdio yn Fireworks, Caerdydd. Rwy’n canolbwyntio’n bennaf ar greu llestri bwrdd tsieina sydd â darluniau arnynt.
Rwyf i bob amser yn awyddus i ddatblygu fy ngwaith creadigol, ac rwy’n gwneud hyn drwy arbrofi â phrosesau trin porslen â llaw, defnyddio technegau printio newydd, gwthio ffiniau tryloywder llestri tsieina a phorslen gyda Lithoffanau, datblygu fy nealltwriaeth o batrwm a lliw, heb anghofio’r hyn a wnaeth i mi syrthio mewn cariad â chelf i ddechrau, sef gweithio ag inc a dyfrlliw.
Crynodeb o’r Gweithdy:
Yn ystod y gweithdy hwn, byddwch chi’n cael hyfforddiant ymarferol gan Lowri Davies, un o’r artistiaid sy’n arddangos ei gwaith ar hyd o bryd fel rhan o’r arddangosfa Merched ar Lestri sy’n rhoi sylw i gelfyddyd gywrain porslen. Bydd unigolion yn cael cyfarwyddiadau i weithio â phorslen tenau er mwyn manteisio ar ei nodweddion tryloyw.
Gan gymryd ysbrydoliaeth gan dueddiad Lowri i gyfuno darlunio a serameg, byddwch chi’n cael cyfle i arbrofi â thechnegau printio mono du a glas er mwyn creu arwynebau patrymog i’w crafu ar blastr. Byddwch chi’n defnyddio’r plastr hwn i greu patrwm ar y porslen. Bydd y darnau cymhleth hyn yn cael eu crasu gan Lowri a byddant yn barod i chi fynd â nhw adref yn ddiweddarach.
Eventbrite:Porslen: arwyneb a thryloywder gyda’r artist Lowri Davies
—
Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.