Dydd Mercher 30 Gorffennaf 2025
11:30am-2:30pm | Gweithdy i oedolion | £30
Torri Papur Tsieineaidd – Gyda Chyllell Grefftau gyda Weixin Liu
Darperir lluniaeth
Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn
Bywgraffiad o’r artist
Ganwyd Weixin Liu yn China, ac mae hi’n byw yn Abertawe ers blynyddoedd lawer. Roedd gan Weixin ddiddordeb mawr mewn celf a chrefft pan oedd hi’n ifanc. Ar ôl symud i Abertawe, aeth ati i hyrwyddo diwylliant Tseineaidd yn eang ac yn ystyrlon yn ei chymuned.
Mae Weixin yn gweithio fel artist cymunedol ers sawl blwyddyn, ac yn defnyddio ei sgiliau creadigol i gysylltu ac ysbrydoli eraill. Ar ôl cael Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), aeth ati i gydweithio â gwahanol gymunedau gan ddefnyddio’r celfyddydau i gefnogi llesiant a datblygiad personol unigolion. Mae hi wedi ymrwymo i rannu ei sgiliau a’i gwybodaeth, ac mae’n cael pleser o rymuso eraill drwy fynegiant creadigol.
Crynodeb o’r Gweithdy
Dewch i ddysgu rhagor am y grefft werinol o dorri papur â siswrn. Byddwch chi’n dysgu sut i blygu a thorri papur yn ddyluniadau cymhleth sy’n symbol o lwc, hapusrwydd a dathlu.
Beth am wella eich sgiliau torri papur drwy ddefnyddio cyllell grefftau i greu patrymau manwl a chywrain. Mae’r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar dechnegau manwl a fydd yn dangos celfyddyd gain y traddodiad hwn sy’n dyddio’n ôl ganrifoedd.
Eventbrite:Torri Papur Tsieineaidd – Gyda Chyllell Grefftau gyda Weixin Liu
—
Nid oes angen profiad blaenorol, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu cynnwys fel rhan o’r gweithdy.
Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.