2yp – 3yp

Am ddim

7+ oed

Erbyn hyn rydyn ni’n cynnig Sesiynau Tawel ar gyfer ein gweithdai plant.

Bwriedir y gweithgareddau hyn i fod yn addas i unrhyw gyfranogwyr sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Dyma fersiwn hyblyg sydd wedi’i phersonoli o weithdy’r bore, gyda llai o olau a sŵn yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai ac mae yna groeso i rieni aros a mwynhau’r sesiynau yma lle nad oes cymaint o bobl.

 

Ymunwch a ni yn Oriel Mission am weithdy mono printio hwyl wedi ei ysbrydoli gan arddangosfa ‘Fflwcs ac Osgo’ Paul Wearing, yn Oriel Mission hanner tymor yma. Byddwch yn arbrofi a chwarae gydag inc a cholaj i greu tirluniau lliwgar ac atmosfferig.

 

 

Eventbrite: Mono Printio

 

 

Byddwn yn dilyn gweithdrefn olrhain cysylltiadau (gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir ar eich ffurflenni caniatâd). Os bydd unrhyw unigolyn yn dangos arwyddion o symptomau COVID, hysbysir yr holl gyfranogwyr ac mae’r sesiynau’n debygol o gael eu canslo rhag ofn.

Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol. Dylech fod ar gael yn ystod y sesiynau, pe bai angen i ni gysylltu â chi i gasglu’ch plentyn.


Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk

Darperir deunyddiau, nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw.

Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.