Clwb Celf a Chrefft i Blant

11am-12:30pm | 7+ oed | £20 am 5 Gweithdy

Ydych chi’n chwilio am haf yn llawn gweithgareddau a chreadigrwydd? Yma yn Oriel Mission, rydyn ni’n cynnal ein Clwb Crefftau’r Haf anhygoel. Gan gynnig cyfres o 5 gweithdy creadigol drwy gydol mis Mehefin, mis Gorffennaf a mis Awst – ymunwch â ni i fynegi eich hun, gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd drwy ymchwilio i fyd modelu clai, peintio ffabrig a mono-brintio i enwi dim ond rhai.

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!

 

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

 

Eventbrite: Clwb Celf a Chrefft i Blant 

 

Dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024

Gwrth-beintio a Mono-brintio

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn wych o archwilio byd print a gwneud marciau. Byddwn yn rhannu rhai technegau mono-brintio creadigol ac yn mwynhau defnyddio gwrth-ddeunyddiau, fel pasteli olew a dyfrlliwiau, i greu campwaith lliwgar ac unigryw.

 

Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2024

Creadigaethau ModRoc

Defnyddiwch eich dychymyg gwych yma yn yr oriel lle byddwn yn defnyddio modroc i greu creaduriaid cyfeillgar i fynd gyda chi ar eich anturiaethau dros yr haf neu gerfluniau beiddgar i arddangos eich creadigrwydd. Beth bynnag y byddwch chi’n penderfynu ei greu, byddwn yn eich helpu i ddod â’r cyfan yn fyw.

Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2024

Gweithdy marblo a chardiau post yr haf

Oes gennych chi atgof anhygoel o’r haf yr hoffech chi ei rannu? Dewch i addurno eich cardiau post eich hun i gofnodi’r holl hwyl y byddwch chi’n ei gael yn ystod y gwyliau. Byddwn hefyd yn dangos i chi sut mae gwneud papur unigryw wedi’i farblo, lle nad oes yr un ddau ddyluniad yr un fath.

Dydd Gwener16 Awst 2024

Peintio Ffabrig

Beth am weddnewid eich cwpwrdd dillad dros yr haf a mynegi eich arddull unigryw yma yn yr oriel. Byddwn yn dangos i chi sut mae trawsnewid unrhyw ddarn o ffabrig, boed yn fag neu’n grys-t, drwy ddysgu sut mae stensilio gwaith celf a phrintio eich dyluniad personol eich hun gan ddefnyddio paent ffabrig lliwgar.

Dydd Sadwrn 31 Awst 2024

Modelu clai ac animeiddio Stop/Symud

Ymunwch â ni i ddod â byd modelu clai yn fyw drwy animeiddio stop/symud. Gan ddefnyddio gwifren a chlai, byddwch chi’n gallu creu eich creaduriaid anhygoel eich hun a dylunio set a fydd yn berffaith ar gyfer adrodd straeon dros yr haf.

 

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.