Dydd Sadwrn 3 Mai 2025
11am-12:30pm | 7+ | £7
Papier Mâché a Chreu Llyfrau Braslunio. Llyfrau braslunio Synhwyraidd:
I ddechrau ein mis Mai medrus, byddwn yn mynd ati i greu ychydig o greadigaethau papier mâché addurniadol. Byddwn hefyd yn creu llyfrau braslunio hyfryd i chi ddod â nhw i bob sesiwn a chofnodi eich taith.
Ymunwch â ni am sesiwn wych o greu eich llyfr braslunio synhwyraidd eich hun. Gan ddefnyddio papurau lliwgar a deunyddiau cyffrous byddwch yn gallu llunio eich llyfr braslunio eich hun.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.