Mis Mai Medrus: Clwb Crefftau’r Gwanwyn

11am-12:30pm | 7+ oed | £20 am 5 Gweithdy

Yn Oriel Mission, rydyn ni’n dwlu ar gelf a chrefft i’r fath raddau fel ein bod ni eisiau neilltuo mis Mai i gyd i wneud gweithiau celf! Bydd dyfodiad y gwanwyn yn codi ein calonnau ac yn ein hysbrydoli i fod yn greadigol. Felly, os ydych chi’n mwynhau creu gyda papier mâché, gwehyddu, syanoteipio a phaentio, cymerwch ran yng Nghlwb Crefftau’r Gwanwyn ym mis Mai. Bob dydd Sadwrn ym mis Mai, gallwch ymuno ag aelodau’r clwb a chreu gweithiau celf i fod yn falch ohonynt.

 Eventbrite:Mis Mai Medrus: Clwb Crefftau’r Gwanwyn

 

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

Dydd Sadwrn 3 Mai 2025: Papier Mâché a Chreu Llyfrau Braslunio:

I ddechrau ein mis Mai medrus, byddwn yn mynd ati i greu ychydig o greadigaethau papier mâché addurniadol. Byddwn hefyd yn creu llyfrau braslunio hyfryd i chi ddod â nhw i bob sesiwn a chofnodi eich taith.

Dydd Sadwrn 17 Mai :Collages botanegol a gwehyddu

Byddwn yn edrych ar wead a lliw a siâp yn y gweithdy hwn, gan wehyddu tecstilau a deunyddiau diddorol o fyd natur i greu ein gwehyddiadau ein hunain. Cewch dalu teyrnged i fyd natur drwy greu collage botanegol beiddgar.

Dydd Sadwrn 24 Mai :Paentio bywyd llonydd a chreu syanoteipiau o flodau’r gwanwyn

Dyma’r adeg o’r flwyddyn lle mae blodau lliwgar yn dechrau ymddangos ar ôl gaeaf hir. I groesawu byd natur yn ystod y dyddiau heulog hyn, byddwn yn arbrofi gyda seianoteipiau i wneud printiau o fyd natur, ac yn rhoi ein doniau artistig ar waith drwy beintio blodau mewn gosodiad bywyd llonydd.

Dydd Gwener 30 Mai :Paentio ac addurno papier mâché

Yn y gweithdy hwn byddwn yn ailymweld â’r creadigaethau papier mâché penigamp a wnaethoch yn y sesiwn gyntaf. Gan ddewis deunyddiau diddorol a lliwiau llachar, gallwn addurno’r papier mâché a dod â’ch syniadau’n fyw.

Dydd Sadwrn 31 Mai : Dalwyr breuddwydion

Ydych chi erioed wedi cael breuddwyd anhygoel y byddech chi wrth eich bodd yn ei dal a’i chadw? I ddathlu diwedd ein clwb crefftau, byddwn yn defnyddio ein holl ysbrydoliaeth i addurno daliwr breuddwydion unigryw gyda gwahanol linynnau, gleiniau, a phlu lliwgar. Ewch ati i greu rhywbeth ystyrlon gyda’ch gilydd, er mwyn sicrhau bod eich breuddwydion gwych am greadigrwydd yn cael eu dal pan fyddwch yn mynd â’ch daliwr breuddwydion hardd adref gyda chi.

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.