Clwb Crefftau’r Haf

11am-12:30pm | 7+ oed | £20 am 5 Gweithdy

Rydym yn barod i fod yn ymarferol ac yn greadigol yr haf hwn. Mae gennym weithgareddau gwych wedi’u trefnu ym mis Gorffennaf a mis Awst i ddarpar artistiaid ymgolli ym myd y broses greadigol. Hoffech chi ddysgu sut mae gwneud eich papur unigryw eich hun? Neu ddysgu sut mae gwneud crefftau hanesyddol fel gwaith mosaig i ddangos pwy ydych chi fel unigolyn creadigol? Os felly, ymunwch â ni yn Oriel Mission lle rydym yn cynnig cyfres o 5 gweithdy creadigol am £20. Nod y gweithdai yw i gyfranogwyr fynegi eu hunain yn greadigol, gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau celf newydd drwy ymchwilio i fyd celf a chrefft. Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu, ac mae cyfranogwyr bob amser yn gadael y sesiynau gyda’u crefftau unigryw eu hunain.

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!

Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf 2025: Papur wedi’i Wneud â Llaw

Archebwch eich tocyn nawr: Papur wedi’i Wneud â Llaw

Dydd Gwener 25 Gorffennaf 2025: Inc Naturiol a Deunyddiau Gwneud Marciau

Archebwch eich tocyn nawr: Inc Naturiol a Deunyddiau Gwneud Marciau

Dydd Gwener 8 Awst 2025: Ffeltio

Archebwch eich tocyn nawr: Ffeltio

Dydd Sadwrn 16 Awst: Papur wedi’i Wneud â Llaw

Archebwch eich tocyn nawr: Papur wedi’i Wneud â Llaw

Dydd Sadwrn 23 Awst: Baneri Print Bloc

Archebwch eich tocyn nawr: Baneri Print Bloc

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.