Dydd Sadwrn 16 Awst 2025: Papur wedi’i Wneud â Llaw

11am-12:30pm | 7+ | £7

Papur wedi’i Wneud â Llaw

Mae papur yn hanfodol i bob artist. Dyma lle gall eich holl syniadau creadigol ddod yn fyw. Byddwn yn arbrofi gyda’r broses syml hon o wneud eich papur eich hun gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a deunyddiau wedi’u huwchgylchu i greu dalennau unigryw o bapur. Dewiswch ddeunyddiau sydd â gwead a lliw gwych fel bod eich papur yn gefndir perffaith ar gyfer eich gwaith celf newydd.

Eventbrite: Papur wedi’i Wneud â LLaw

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.