Dydd Gwener 31ain Hydref
11am-12:30pm | 7+ | £7
Gweithdy i’r teulu – Tai Bwganod ac addurniadau corynnod
Cafodd ein horiel ei hadeiladu yn y 1800au felly rydyn ni’n eithaf siŵr bod straeon arswyd yn perthyn i’r hen le. Ydych chi’n hoffi chwarae castiau neu ydych chi angen y prop perffaith ar gyfer eich stori arswyd? Dan we pry cop a gydag ysbrydion o’ch cwmpas, gallwch chi wneud crefftau tymhorol gyda ni gyda thai bwganod cardfwrdd sy’n siŵr o godi braw…
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch
Safiyyah Altaf,Swyddog Creadigol Allgymorth,outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016
â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.