Decoupage gyda Lisa Burkl
Dydd Sadwrn 21 Chwefror
11am- 12:30pm | Gweithdy i deuluoedd | £7
Eventbrite: Decoupage gyda Lisa Burkl
Lisa Burkl
Artist cyfryngau cymysg yw Lisa Burkl (g.1967, Llanelli) sy’n arbenigo mewn gwydr. Ar hyn o bryd mae’n gweithio o Ynysmeudwy yng Nghwm Tawe fel artist, darlithydd gwadd, a hwylusydd celf gymunedol.
Ers cymhwyso mewn Gwydr Pensaernïol ym 1991, mae Lisa wedi dylunio a saernïo comisiynau, arddangos mewn lleoliadau (gan gynnwys ‘Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’ yn Abertawe a ‘Ffwrnes’ yn Llanelli), ac arwain gweithdai mewn ysgolion, prifysgolion, orielau a mannau cymunedol. A hithau’n athro cymwysedig sydd â BA mewn Gwydr Pensaernïol a TAR o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae hi wedi cydweithio’n eang ar brosiectau celf cyfranogol, gan weithio’n aml gydag elusennau i gefnogi llesiant drwy greadigrwydd.
Trosolwg
Yn y gweithdy hwn, bydd cyfranogwyr yn rhoi cynnig ar grefft decoupage drwy haenu papur ac arbrofi â gwahanol ddyluniadau i greu darnau o gelf unigryw. Mae’r gweithgaredd hwyliog hwn yn galluogi pawb i fynegi ei hun wrth greu darn personol i’w arddangos yn falch neu i’w roi’n anrheg llawn creadigrwydd sy’n codi gwên.
Gallwn gyflwyno’r sesiwn hon yn Gymraeg
Cynhelir y gweithdy hwn yn ein man arddangos ar y llawr gwaelod
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Safiyyah Altaf,Swyddog Creadigol Allgymorth,outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016
Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.