Galwad i’r Archif | Gwobr Jane Phillips
Mae Gwobr Jane Phillips yn gofeb i Jane Phillips (1957 – 2011), Cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission.
Wedi’i lansio gan Oriel Mission yn 2011, crëwyd y wobr fel teyrnged i angerdd Jane dros gefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac yn gynnar yn eu gyrfa ar draws y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol.
Yn dilyn 15 mlynedd lwyddiannus, daw’r Wobr i ben yn 2026.
A fu gennych chi erioed gysylltiad â’r Wobr?
Neu
Oeddech chi’n adnabod Jane?
Hoffem greu archif ar gyfer y Wobr gyda chyfraniadau ysgrifenedig neu sain. Os yw’r Wobr wedi eich cefnogi mewn rhyw ffordd neu os oeddech chi’n adnabod Jane, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Cyfraniadau sain:
Anfonwch ar ffurf ffeil sain (mp3 neu mp4); ni ddylai fod yn fwy na 3 munud o hyd.
Cyfraniadau ysgrifenedig: Dim mwy na 300 o eiriau.
Rhai awgrymiadau a allai fod o gymorth:
Dywedwch wrthym beth yw eich cysylltiad â’r wobr neu sut oeddech chi’n adnabod Jane.
Os oedd gennych chi gysylltiad â’r wobr, sut effeithiodd hyn ar eich gwaith/arfer?
Os oeddech chi’n adnabod Jane yn bersonol, oes yna stori yr hoffech chi ei rhannu am eich cysylltiad?
Oes neges yr hoffech chi ei gadael â’r wobr?
Anfonwch eich cyfraniadau i janephillipsaward@missiongallery.co.uk
—
Ynglŷn â’r Wobr
Cafodd ei chreu fel teyrnged i gyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission; daeth yn bosibl diolch i garedigrwydd llawer o artistiaid a gyfrannodd eu gwaith; ar bob lefel o’u gyrfa. Cafodd y gweithiau celf hyn eu harwerthu mewn ocsiwn fel rhan o Arwerthiant Celf yng Ngholeg Celf Abertawe, PCyDDS, â’r arian a godwyd yn mynd tuag at Wobr Jane Phillips.
Ers ei sefydlu yn 2011, mae Gwobr Jane Phillips wedi cefnogi 88 o artistiaid yn gynnar yn eu gyrfa a’r rhai sy’n dod i’r amlwg, gyda chyfleoedd i arddangos eu gwaith, neu fel artistiaid preswyl. Cryfhawyd nifer o’r cyfleoedd hyn ymhellach gan bartneriaethau â Choleg Celf Abertawe PCyDDS, Oriel Elysium, Ysgol Gelf Caerfyrddin a Choleg Gŵyr.
Mae artistiaid blaenorol wedi cynnwys Ryan L. Moule, Helen Dennis, Thibault Brunet, Harry Gammer-Flitcroft ymhlith llawer o rai eraill.
Daw Gwobr Jane Phillips i ben gyda ‘Heaven in the Ground‘ gan DARCH (Radha Patel ac Umulkhayr Mohamed). Cefnogir eu harddangosfa yn Oriel Mission gan Wobr Jane Phillips.