Maker

Zivarna Murphy Y Gwneuthurwr

12th September 2026 - 31st October 2026

Mae Dr Zivarna Murphy yn artist ac ymchwilydd sy’n gweithio’n reddfol ar draws ystod o ddeunyddiau a phrosesau gan gynnwys clai, serameg, gwehyddu cerfluniol, argraffu ac ysgrifennu. Astudiodd Anthropoleg ac mae ganddi PhD mewn Gwyddorau Dynol.

Mae hi’n ymddiddori yn y profiad dynol, ac mae’n cyfuno themâu sy’n dod i’r amlwg o’i hymchwil ynghylch agweddau cymdeithasol rhoi corff ac organau, sef colled, galar a thrawsnewid, â dull hunan-ethnograffig sy’n archwilio ei hunaniaeth ethnig-cymysg ei hun a’i phrofiadau o’r byd. Mae hi’n archwilio’r themâu hyn trwy drosiadau materol, profiadau synhwyraidd, a chyfatebiaethau o fewn y dirwedd sy’n ei hamgylchynu. Er enghraifft, ar ymweliadau â’i harfordir lleol yn Nwyrain Swydd Efrog, mae hi’n arsylwi ar yr erydiad a’r colli tirwedd hwn fel trosiad am golled ddynol.

Trwy lestri cyffyrddol wedi’u ffurfio â llaw o grochenwaith caled a phorslen, wedi’u haenu â chlai clogfeini wedi’i erydu a chregyn, creigiau a ffosiliau, i gyd wedi’u casglu o’r arfordir hwn, mae hi’n ymdrin â chreu fel proses o ddarganfod. Mae’r ffurfiau’n tynnu ar strwythurau y mae hi’n eu gweld yn ei thirwedd leol, fel cregyn wedi’u ffosileiddio, clogwyni sy’n gostwng a chreigiau a ffurfiwyd gan y môr. Mae ganddi ddiddordeb mewn tanio clai i greu serameg fel proses drawsnewidiol gan ei droi’n gorff y llestr.

Mae creu byd amgen yn bwysig yng ngwaith Zivarna ac mae’r deunyddiau y mae’n eu defnyddio yn rhoi ymdeimlad cryf o le a chysylltiad i’w gwaith.