Hysbysiad ynglŷn â’r Cyfryngau

Mae Oriel Mission yn cadw’r hawl i ffilmio, tynnu lluniau a gwneud recordiadau sain yn ein holl arddangosfeydd a digwyddiadau.

Gall delweddau, fideo a sain sydd wedi’u cipio gael eu defnyddio gan Oriel Mission a/neu ein partneriaid sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, yr artist(iaid), dylunwyr llawrydd a Chyngor Celfyddydau Cymru at ddibenion sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddeunyddiau hyrwyddo printiedig, dylunio digidol, fideos hyrwyddo, postiadau cyfryngau cymdeithasol, eu cynnwys mewn arddangosfeydd/digwyddiadau a’u harchifo.

Drwy fynychu un o’n digwyddiadau, rydych yn caniatáu i Oriel Mission a’i phartneriaid ddefnyddio’r delweddau, fideo a sain dan sylw ar ffurf trwydded fyd-eang, drosglwyddadwy, heb freindaliadau a heb fod yn allgynhwysol na fyddwch yn hawlio unrhyw werth ariannol amdani.

I’r rheini o dan 18 oed, gofynnir i riant neu warcheidwad cyfreithiol gwblhau ffurflen rhyddhau ffotograffau.

Os nad ydych am i lun ohonoch gael ei dynnu yn ystod digwyddiad, rhowch wybod i un o’n ffotograffwyr ar y pryd fel y gellir cymryd y mesurau priodol.

Os ydych am i ni symud ffotograff ohonoch cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data: data@missiongallery.co.uk

100 mlynedd o Glenys Cour

100 mlynedd o Glenys CourArddangosfa

03 Chwefror - 04 Mai 2024

Mwy
Teyrnged i integreiddio

Teyrnged i integreiddioMLArt: Melissa Rodrigues, Laurentina Miksys and Joel Morris

31 Mai - 06 Gorffennaf 2024

Mwy