Criw Celf West


Prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Criw Celf y Gorllewin sydd am feithrin a datblygu doniau creadigol pobl ifainc dalentog. Bydd myfyrwyr sy’n cofrestru ar y prosiect hwn yn cymryd rhan mewn 5 nosbarth meistr, pob un dan arweiniad artist neu ddylunydd proffesiynol. Hefyd ceir cyfleoedd iddynt ymweld ag orielau a stiwdios eraill. Mae Oriel Mission yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n cynnig i’ch myfyrwyr fynediad diogel i offer a chyfleusterau uchel eu safon. I ddathlu gwaith caled y myfyrwyr, rydyn ni’n cynnal arddangosfa ar ddiwedd y prosiect yn ein prif ofod arddangos.

Beth sydd gan ein curaduriaid i’w ddweud…

 Curadwyd ein Harddangosfa Criw Celf ar gyfer 2021 gan Lisa Evans a’i chefnogi gan y Curadur Ifanc Evelyn Wolstenholme. Mae’r arddangosfa’n dathlu gwaith caled myfyrwyr ac artistiaid Criw Celf ac wedi’i dwyn at ei gilydd yn y sioe diwedd y flwyddyn yma. Mae’r fideo isod yn cynnwys cyfweliad â Lisa ac Evelyn ynglŷn â’u profiad o guradu Criw Celf 2021.

“Cyfle oedd profiad curadurol Criw Celf i fod yn greadigol gyda’r gwaith a’r gofod. Cafwyd y fath amrywiaeth a dyfnder i’r gweithiau a grëwyd gan yr artistiaid ifainc. Roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig rhoi iddynt y llwyfan proffesiynol i arddangos eu hymdrechion a’u doniau. Mi wnes i wir fwynhau’r profiad a chydweithio ag Eve a arweiniodd at brosiect cydweithredol cyfoethog ar y naw.” Lisa Evans, Curadur.

 

 

Gwnewch Gais Nawr am Criw Celf 2021/22


 

Cymryd Rhan


Mae Oriel Mission yn rhedeg y prosiect hwn i bobl ifainc yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot ar gyfer y grwpiau oedran canlynol:



• Criw Celf Cynradd (blynyddoedd ysgol 5-6)
• Criw Celf Uwchradd (blynyddoedd ysgol 7-8)

• Portffolio (TGAU)


• Codi’r Bar (UA/Safon Uwch ac addysg bellach).

Disgwylir ceisiadau erbyn 13 Mai (CCC) 25 Mai (CCU) & 10 Mehefin (Portffolio & Codi'r Bar) 2022. Mae'r rhaglen yn dechrau ym mis Mehefin 2022


Mae yna broses ddethol a gyhoeddir yn nes ymlaen eleni. 

Codir ffi o £20 i gymryd rhan yn y prosiect, sy’n daladwy ymlaen llaw.


Os ydych yn rhiant neu’n athro sydd am wybod mwy am Griw Celf y Gorllewin, cysylltwch â Megan Leigh, cydlynydd y prosiect: megan@missiongallery.co.uk

Gallwch ddysgu mwy ar criwcelfwest.wales
 


 

Cymorth Ariannol



Cyfle gwych yw’r prosiect hwn i unrhyw fyfyriwr sy’n dalentog yn y celfyddydau. Er bod y prosiect yma’n derbyn cryn dipyn o gymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, rydyn ni’n deall yn llwyr nad pawb sy’n gallu fforddio’r ffi. Mae gynnon ni nifer cyfyngedig o leoedd am ddim - siaradwch â Megan os hoffech wneud cais am un.

100 mlynedd o Glenys Cour

100 mlynedd o Glenys CourArddangosfa

03 Chwefror - 04 Mai 2024

Mwy