Gwneud Cais i Arddangos

Mae Oriel Mission yn ymrwymedig i ddangos y gwaith gorau yn y celfyddydau gweledol a chymhwysol gan ddoniau cenedlaethol a rhyngwladol. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau’n uniongyrchol gan artistiaid. Mae gynnon ni bedwar gofod y gall artistiaid wneud cais i arddangos ynddynt:

Yr Oriel 

Dyma ein prif ofod arddangos, wedi’i neilltuo i ddangos a gwthio ffiniau’r celfyddydau gweledol a chymhwysol. 

Y Gwneuthurwr
Gofod arddangos unigryw a leolir mewn man amlwg yn ein siop ac wedi’i neilltuo i ddangos gwaith gwneuthurwyr a dylunwyr talentog. 

Y Sgrin
Llwyfan i ddangos gwaith y ddelwedd symudol. Yn ddelfrydol ar gyfer ffilm, ffotograffiaeth, animeiddiadau a gemau. 

Y Wal

Sioe arddangos hyblyg o brintiau gan ddylunwyr a darlunwyr dawnus. 

 


 

Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn gwneud cais am un o’r cyfleoedd arddangos yma, darllenwch y gofynion ar gyfer pob adran isod. Rhaid i bob cais gael ei anfon at apply@missiongallery.co.uk. Dylech nodi’n glir pa ofod rydych yn gwneud cais i arddangos ynddo o dan y llinell bwnc.


Ni allwn dderbyn ceisiadau a gyflwynir yn bersonol i’r oriel.
Bydd y Tîm Arddangosfeydd yn cyfarfod bob 4 mis i adolygu cyflwyniadau.
Rydym yn rhaglennu tua 1-2 flynedd ymlaen llaw.


 

Y Gofod Arddangos

Eich cais 
Tua 10 ffotograff da o’ch gwaith.

CV a bywgraffiad cyfredol.

Dewisol: Dolen â’ch gwefan, tudalen Instagram neu Facebook.  

Lawrlwytho Canllawiau’r Gofod Arddangos

 


 

Gwneuthurwr mewn Ffocws

Paragraff byr amdanoch chi a’ch gwaith.

Tua 5 ffotograff da o’ch gwaith.

CV a bywgraffiad cyfredol.

Dewisol: Dolen â’ch gwefan, tudalen Instagram neu Facebook.  

Lawrlwytho Canllawiau Ffocws ar y Gwneuthurydd

 


 

y lle [...]


Paragraff byr amdanoch chi a’ch gwaith.

Tâp arddangos (i’w weld ar Youtube, Vimeo ac yn y blaen).

CV a bywgraffiad cyfredol.

Dewisol: Dolen â’ch gwefan, tudalen Instagram neu Facebook.  

Lawrlwytho Canllawiau gofod [...]

 


 

Wal Printiau 

Paragraff byr amdanoch chi a’ch gwaith.

Tua 5 ffotograff da o’ch gwaith.

CV a bywgraffiad cyfredol.

Dewisol: Dolen â’ch gwefan, tudalen Instagram  neu Facebook.   

Lawrlwytho Canllawiau’r Mur Printiau

 

100 mlynedd o Glenys Cour

100 mlynedd o Glenys CourArddangosfa

03 Chwefror - 04 Mai 2024

Mwy
Teyrnged i integreiddio

Teyrnged i integreiddioMLArt: Melissa Rodrigues, Laurentina Miksys and Joel Morris

31 Mai - 06 Gorffennaf 2024

Mwy