Yr Oriel

  • Header image

Teyrnged i integreiddioMLArt: Melissa Rodrigues, Laurentina Miksys and Joel Morris

31 Mai - 06 Gorffennaf 2024

Agoriad arddangosfa: 5-8yh, nos Wener 31 Mai 2024

Mewn byd sydd wedi’i siapio gan fudo a chymhlethdodau hunaniaeth, mae MLArt yn falch o gyflwyno archwiliad o amrywiaeth drwy arddangosfa grŵp o’r enw "gofod a rennir". Mae'r arddangosfa hon yn edrych ar linynnau aml-ddiwylliannedd yng nghyd-destun ein cymdeithas gan wahodd gwylwyr i fyfyrio a chysylltu.

Fel artistiaid, rydym yn mynd i'r afael â'r syniad o ‘arallrwydd’ gydag empathi a chwilfrydedd gan adrodd straeon sy'n dathlu'r naratifau unigryw sy'n llywio'r ddynoliaeth a rannwn. Drwy amrywiaeth o gyfryngau a safbwyntiau, rydym yn ystyried beth mae’n ei olygu i berthyn. Ein nod cyffredinol o gael ein derbyn.

O ddarluniau o dreftadaeth i fyfyrdodau o’r galon ar ddadleoliad a gwydnwch, mae pob darn o waith celf yn dyst ac yn arwydd o integreiddio ac o bŵer trawsnewidiol celf wrth feithrin dealltwriaeth ac undod. Wrth i ymwelwyr archwilio’r oriel, byddant yn cael eu hannog i ymgysylltu â’r gwaith celf a herio rhagdybiaethau yn ogystal â gwerthfawrogi’r harddwch a geir mewn amrywiaeth.

Mae “Teyrnged i integreiddio”, a fydd yn agor ar 31 Mai, yn cynnig cipolwg ar sut mae ein cymuned fyd-eang yn parhau i esblygu ac addasu. Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu’r cyfoeth sy’n dod o ddathlu ein gwahaniaethau a chychwyn ar daith tuag at ddyfodol gwell.

 


 

Melissa Rodrigues

Mae Melissa Milanca Balencante Rodrigues yn artist celfyddyd gain o Abertawe. Ganed Melissa yn Guinea-Bissau, a bu’n byw ym Mhortiwgal o oedran ifanc tan 2016.

Graddiodd Melissa mewn celfyddyd gain o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Gorffennaf 2019. Mae hi’n defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i greu ei gwaith, fel paentio, ffotograffiaeth, gosod a cherflunio.

Mae ei gwaith yn archwilio themâu dadleoli, perthyn, a hunaniaeth ddiwylliannol, ac agweddau cyffredinol sy'n ymwneud â symudiad pobl ar draws y byd. 

Mae gwaith Melissa yn ystyried magwraeth pobl mewn cymunedau diasporig, y mae ganddi hi ei hun brofiad ohono. Felly, mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddod o hyd i gysylltiadau rhwng y portread o'r corff ethnig mewn hanes a sut y gall hyn ddylanwadu ar hunan-werth a hunaniaeth.

Mae llu o artistiaid wedi dylanwadu ar waith Melissa, gan gynnwys: Yinka Shonibare, Kara Walker, Sonia Boyce, Grada Kilomba, Sidney Cerqueira, Chris Ofili, ac eraill.

 

Laurentina Miksys

Mae realiti bywyd yn cael ei ddisgrifio yn fy ffotograffau fel rhywbeth parhaus ond sy’n newid. Mae fel pwls bywyd. Mae fy ffotograffiaeth yn gysylltiedig â chreu ffurfiau newydd yn gyson, a threiddiad y gorffennol a’r presennol.

Felly, mae fy ffotograffiaeth yn archwilio gwahanol lefelau o realiti: realiti pwy neu beth sy’n cael ei ddisgrifio gan y ddelwedd a realiti profiad a theimlad – boed hynny’n realiti’r gwrthrych, y gwyliwr, neu fy un i. Dyma beth rydyn ni’n ei gynnig i’r ddelwedd ac, ar ôl ei drawsnewid, yn mynd ag ef gyda ni.

Mae cipio eiliad go iawn mewn bywyd ar unwaith mewn ffotograffiaeth a chadw’r emosiwn digymell a’i lenwodd yn bwysicach na chyffredinoli. Gallwch weld fod fy ffotograffau’n cynnwys telynegiaeth a synhwyrwch arbennig, sy’n edrych yn obeithiol ar fywyd a dynoliaeth. Fodd bynnag, nid yw fy mhortreadau’n ymwneud â sut mae rhywun yn edrych; yn hytrach, maen nhw’n ymwneud â sut rwy’n teimlo eu bod yn edrych.

 

J. Morris

Fel artist, rwy’n ymgolli yn y cydbwysedd gofalus rhwng realiti a chanfyddiad, gan ddefnyddio siarcol a ffotograffiaeth fel fy nghyfrwng archwilio. Mae gen i brofiad fel arbenigwr argraffu tecstilau a sgrîn, a dwy fireinio hynny dros flynyddoedd o weithio’n llawrydd a chydweithio cymunedol, rwy’n ymdrechu i gipio hanfod bodolaeth. Plicio haenau o eiliadau cyffredin a datgelu’r harddwch eithriadol sydd wedi’i guddio tu mewn. Gyda phob creadigaeth, fy nod yw ysgogi ymdeimlad o ryfeddod, gan ysgogi unigolion i fewnsyllu a chysylltu eneidiau drwy gyfrwng celf.

 

Delwedd: Di-deitl, Poster cydweithredol

<< Yn ôl tudalen