Beth rydyn ni’n ei gynnig i Addysg Bellach ac Uwch

 

Sgyrsiau Oriel Am Ddim

Mae’r sgyrsiau anffurfiol hyn yn para tua 20-30 munud ac fe’u cynhelir yn y prif ofod arddangos/siop. Rhown ni gyflwyniad i chi i’n harddangosfa bresennol, hanes byr Oriel Mission a chau pen y mwdwl gyda sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Rhaid archebu lle.

Uchafswm o 30 myfyriwr

Ar gael yn y Gymraeg

 


 

Seminar Broffesiynol

Mae’r seminar yma wedi’i theilwra i anghenion eich myfyrwyr. Dan arweiniad uwch-staff Oriel Mission, mi wnawn ni gyflwyno sgwrs sy’n unigryw i chi; gallwn drafod pynciau megis rheoli orielau, curadu arddangosfeydd, cyllid a datblygu proffesiynol. Rhaid archebu lle.

Rhaid archebu lle.

Uchafswm o 25 myfyriwr  

Ar gael yn y Gymraeg

 

100 mlynedd o Glenys Cour

100 mlynedd o Glenys CourArddangosfa

03 Chwefror - 04 Mai 2024

Mwy
Teyrnged i integreiddio

Teyrnged i integreiddioMLArt: Melissa Rodrigues, Laurentina Miksys and Joel Morris

31 Mai - 06 Gorffennaf 2024

Mwy